Amgylchedd
Uchelgais HCC yw i wneud ffermio defaid a gwartheg eidion yng Nghymru yn enghraifft fyd-eang o sut i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy ac effeithlon.
Credwn fod y ‘Ffordd Gymreig’ o amaethu yn cynnig llawer iawn. Mae nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud yn dda yn barod, ac rydym wedi ymrwymo i wella ymhellach.
Ym mis Hydref 2021 fe wnaethon ni lansio canllaw ymarferol i ffermwyr sy’n amlinellu ffyrdd o leihau allyriadau a chynyddu atafaelu carbon.
Mae’r gwaith yma wedi ei seilio ar ymchwil annibynnol a gwersi o brosiectau diwydiant, ac mae mwy o wybodaeth yn y dogfennau isod.
Gall ffermwyr Cymru ymfalchïo ein bod yn cynhyrchu protein o safon uchel ar dir ymylol, sy’n anaddas ar gyfer tyfu cnydau. Gwnawn hynny i raddau helaeth o fewn systemau nad ydynt yn rhai dwys, gan ddefnyddio glaswellt a dŵr glaw i fagu anifeiliaid, gan osgoi difa coedwigoedd a defnyddio adnoddau dŵr mewn modd anghynaliadwy mewn mannau eraill yn y byd.
Ond fe allem wneud mwy i leihau allyrriadau nwyon tŷ-gwydr a lleihau gwastraff, mewn ffyrdd fedrai hyrwyddo cynaliadwyedd economaidd a diwylliannol y cymunedau hyfyw Cymreig sy’n cael eu cynnal gan gynhyrchu bwyd ac amaethu anifeiliaid. Hefyd, mae amaethu da byw yn unigryw; tra’n ceisio lleihau ei ddylanwad ar yr amgylchedd, gall ar yr un pryd gyfrannu’n adeiladol ym meysydd adnewyddu priddoedd, ehangu bio-amrywiaeth ac atafaelu carbon. Ein bwriad yw sicrhau fod cwsmeriaid, wrth iddynt ddewis Cig Oen neu Gig Eidion Cymru, yn gallu bod yn hyderus fod y cig yn cael ei gynhyrchu i’r safonau uchaf o ran cynaliadwyedd, ac y byddwn yn gwneud ein rhan wrth geisio wynebu sialens newid hinsawdd a diogelu’r cyflenwad o fwyd yn fyd-eang. Cliciwch yma i lawrlwytho adnoddau cyfryngau cymdeithasol.
- Amdanom ni
- Newyddion a Data
- Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd
-
Marchnadoedd
- Prisiau Wythnosol Gwatheg Pwysau Marw Prydeinig
- Prisiau Wythnosol Defaid Pwysau Marw Prydeinig
- Prisiau Wythnosol SPP a APP (DU a UE)
-
Tueddiadau Marchnad Da Byw
- Rhifau Da Byw Cymru
- Rhifau Lladd Misol Cymru 2017
- Rhifau Lladd Misol y DU 2017
- Pwysau Cyfartalog Misol Carcasau yn y DU 2017
- Nifer o Lloi a Cofrestrwyd yng Nghymru
- Lladd-dai yng Nghymru
- Dosbarthiad Carcasau – Cig Eidion
- Dosbarthiad Carcasau - Cig Oen
- Dosbarthiad Carcasau - Moch
- Diffiniadau pwysau da byw
-
Adnoddau
- Rheoli Defaid
- Rheoli Gwartheg Eidion
- Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Amgylchedd
-
Ymchwil a Datblygu
-
Prosiectau Cyfredol
- RamCompare
- Prosiect GrasscheckGB
- Ymwchil Goroesiad Newydd-anedig
- Datrys achoseg CODD
- Rheoli llyngyr yr iau yn well mewn gwartheg yn y DG
- Eiry Williams, PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Emily Herschell-Kelly, PhD ym Mhrifysgol Lerpwl
- Joe Jones, PhD ym Mhrifysgol Bangor
- Louise McNicol, PhD ym Mhrifysgol Bangor
- Becca Roberts, PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Glaswelltir
- Ansawdd Bwyta Cig
- Ysgoloriaethau
- Ymchwil economaidd-gymdeithasol
- Cyfathrebu
-
Prosiectau Cyfredol
- Ysgoloriaethau a Gyrfaoedd
- Prosiectau'r Diwydiant