Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn tynnu sylw at y rhan sydd gan gig coch i’w chwarae mewn diet a ffordd o fyw iach wrth i filoedd o ddisgyblion a myfyrwyr ledled Cymru baratoi ar gyfer arholiadau yn ystod yr haf.

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr: “Mae diet a ffordd o fyw yn ffactorau pwysig i rieni a myfyrwyr eu hystyried wrth baratoi i sefyll arholiadau. Gall cael prydau maethlon a chytbwys - fel cig coch Cymru, sydd yn cynnwys proteinau â llawer o faetholion – fod yn ffordd hollbwysig i rieni gynorthwyo dysgwyr drwy gydol cyfnodau  llawn straen yr arholiadau ac adolygu.”

Gall cig coch Cymru chwarae rhan bwysig mewn diet cytbwys oherwydd mae’n cynnig llawer o faetholion.  Mae’r rhain yn cynnwys protein naturiol, haearn, sinc a fitamin B12. Gall y protein cyflawn sydd i’w gael mewn Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI helpu unigolion i deimlo’n llawn a’u helpu i osgoi’r temtasiwn i fwyta byrbrydau melys neu hallt.  Hefyd, mae’r haearn sydd mewn cig coch yn cael ei amsugno’n rhwydd ac mae’n atal blinder a lludded.

Ychwanegodd Elwen:  “Gwyddom fod Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn cynnig llu o fanteision iechyd i bobl, ac mae llawer ohonyn nhw’n arbennig o ddefnyddiol yn ystod tymor yr arholiadau. Gall fitamin B12, er enghraifft, helpu i ryddhau egni tra bod sinc yn helpu’r system imiwnedd, sef dau beth sy’n allweddol i fyfyrwyr yng nghanol arholiadau.”

“Mae gennym amrywiaeth eang o ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sydd yn faethlon, yn gyflym i’w paratoi ac yn berffaith ar gyfer rhieni, myfyrwyr a theuluoedd.  Byddwn yn argymell seigiau fel Bolognese Cig Eidion Cymru neu amlenni tica Cig Oen Cymru sydd â chydbwysedd delfrydol o brotein, carbohydrad a llysiau i’r teulu cyfan eu mwynhau.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i ddeall mwy am gyfraniad cig coch Cymru tuag at ddiet iach a chytbwys, ewch i https://eatwelshlambandwelshbeef.com/cy/iechyd/manteision-maethol-cig-coch/

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad