Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae tîm HCC wedi bod ar hyd y lle yn ddiweddar, yn cynrychioli diwydiant cig coch Cymru mewn cynadleddau a digwyddiadau. 

Mynychodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil, Datblygu a Chynaliadwyedd HCC Gynhadledd y Gymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Brydeinig (BSAS) yn Galway ble cyflwynodd wybodaeth am weithgarwch Ymchwil a Datblygu pwysig HCC.  Mae hyn yn cynnwys bod yn rhan o sawl prosiect drwy’r DU yn cynnwys RamCompare, GrassCheckGB a ‘Bridio ar gyfer gwelliannau mewn defaid a gwartheg bîff.’  Nod y prosiectau yma yw cefnogi’r gadwyn gyflenwi cig coch i daclo heriau’r diwydiant drwy geisio gwella geneteg, rheolaeth glaswelltir a helpu cynhyrchwyr i ddatblygu strategaethau bridio i leihau nwyon tŷ gwydr. 

Yn ystod mis Mai, aeth HCC a Cyswllt Ffermio ar daith o amgylch rhai o goleg amaethyddol Cymru i gysylltu gyda’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr.  Rhoddwyd diweddariad ar y gwaith pwysig a wneir i dynnu sylw at ffermio yng Nghymru a hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  

Roedd y sesiynau’n gyfle i egluro a thrafod gwaith marchnata HCC ac amlygu’r prosiectau ymchwil a datblygu cyfredol i gynulleidfa o ffermwyr y dyfodol. Amlinellodd Cyswllt Ffermio y gefnogaeth sydd ar gael drwyddyn nhw i gynhyrchwyr yng Nghymru.  Roedd y daith yn cynnwys tri lleoliad sef Coleg Penybont (campws Pencoed), Coleg Sir Gâr (Gelliaur), a Grŵp NPTC (Fferm Fronlas), a gobeithiwn ymweld â cholegau gogledd Cymru yn y dyfodol agos. 

You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga