Agoriad llygad, ysbrydoledig, addysgiadol! Rhai o’r geiriau a ddefnyddiwyd gan grŵp 2024-2025 i ddisgrifio’r cynllun Cig-weithio sydd ar agor i geisiadau newydd gan unigolion sy’n gweithio o fewn cadwyn gyflenwi cig coch Cymru.
Ers ei lansio y llynedd, mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi derbyn ymateb cadarnhaol iawn i’r rhaglen ac erbyn hyn yn chwilio am bobl ar gyfer yr ail grŵp.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael mynediad at y mewnwelediad diweddaraf i’r diwydiant ac arbenigedd proffesiynol yn ystod sesiynau â themâu amrywiol a gan fentor personol. Byddant yn mwynhau cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o bob agwedd o’r gadwyn gyflenwi, o’r fferm i’r fforc, a meithrin cysylltiadau newydd.
Meddai Uwch Swyddog Cynhyrchwyr a Phroseswyr HCC, Lowri Thomas: “Rydym ni’n falch i gynnig y cyfle unigryw yma eto eleni i unigolion ifanc a brwdfrydig. Gallai’r aelodau fod yn ffermwyr, yn broseswyr, cigyddion, manwerthwyr, cogyddion – neu unrhyw un sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi cig coch rhwng 21-35 mlwydd oed. Mae’n rhaid iddynt fod yn angerddol am gynhyrchu a hyrwyddo cig coch, gyda diddordeb mewn ymchwil a datblygu ac yn awyddus i weld datblygiadau o fewn y diwydiant.”
Bydd disgwyl i’r aelodau ymrwymo i gyfanswm o chwe diwrnod - pum sesiwn gyda themâu amrywiol ac un gyda mentor yn y gweithle. Byddant yn elwa o gyfleoedd rhwydweithio niferus a gwybodaeth gan siaradwyr gwadd. Fel grŵp, bydd disgwyl iddynt gydweithio ar brosiect perthnasol o’u dewis i greu canlyniadau a fydd yn ddefnyddiol i’r diwydiant.
Ychwanegodd Lowri: “Rydym ni wedi mwynhau gweithio gyda grŵp gwych o bobl eleni ac yn edrych ymlaen at ddarparu cyfleoedd gwerth chweil i’r grŵp nesaf.”
Meddai Dafydd Walters, un o aelodau grŵp 2024-2025: “Rydym wedi cael cyfleoedd i gyfarfod pobl o bob rhan o’r sector a gwneud cysylltiadau gwerthfawr. Rydym wedi clywed gan ddietegydd, wedi cyffwrdd ar farchnata, ar faeth, iechyd anifeiliaid a’r amgylchedd, a chael persbectif go iawn o’r gadwyn gyflenwi cig coch. Mae’r rhaglen wedi bod yn unigryw ac yn brofiad ffantastig.”
Mae Daniel Owen hefyd yn aelod o’r grŵp cyntaf. Meddai: “Rydym wedi cyfarfod sawl cynrychiolydd o’r manwerthwyr yn ogystal â gwyddonwyr a sefydliadau sydd wedi dysgu llawer i ni am y diwydiant o’r fferm i’r fforc. Mae’r rhaglen yn cynnig profiad gwerthfawr i chi o ran cael cyfarfod ag arweinwyr o fewn y diwydiant a chreu cysylltiadau gydag unigolion o’r un oed a meddylfryd a chi’ch hun.”
Y dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer bod yn aelod o’r ail grŵp Cig-weithio yw 5yh ddydd Mercher 2 Gorffennaf. Mae’r ffurflen gais ar gael i’w lawrlwytho o wefan HCC.





