Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn cael sylw yn y farchnad Americanaidd wrth i gorff hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), baratoi i arddangos yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd.

Ynghyd â Llywodraeth Cymru, bydd HCC yn arwain cynrychiolwyr o Dunbia a Kepak yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd rhwng dydd Sul 29 Mehefin a dydd Mawrth 1 Gorffennaf.  Yn ogystal â gweini samplau a chynnal arddangosiadau coginio, bydd HCC ac allforwyr o Gymru yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd a thrafodaethau er mwyn meithrin perthynas fasnach a busnes.

Yn ogystal, bydd HCC a Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad unigryw, sef  'Dathlu Cig Oen Cymru' yn unswydd ar gyfer prynwyr, mewnforwyr, cogyddion a phwysigion yn Swyddfa Conswl Prydain yn ninas Efrog Newydd.  Bydd Dirprwy Gomisiynydd Masnach Gogledd America, Alan Gogbashian, yn ymuno â'r  dathliad unigryw.

Dywedodd Arweinydd Datblygu’r Farchnad yn HCC, Jason Craig: “Ers i farchnad America ailagor rai blynyddoedd yn ôl, mae HCC wedi bod yn gweithio i ddatblygu masnach yn y farchnad. Mae America yn farchnad sydd â photensial mawr ac rydym wedi gweld twf bach ond sylweddol o ran y fasnach yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Mae’r Unol Daleithiau yn farchnad darged allweddol o ran allforio i HCC a sector cig coch Cymru.  Amcangyfrifir ei bod yn werth miliynau o bunnau i’r diwydiant yn yr hirdymor. Mae’r Unol Daleithiau’n defnyddio mwy o gig eidion na neb arall yn y byd ac mae'r defnydd o gig oen yn tyfu.

Ail agorodd y farchnad i gynhyrchwyr ac allforwyr cig eidion y DG yn 2020, ac i gig oen yn 2022 pan godwyd y gwaharddiad ar ôl dau ddegawd.

Ychwanegodd Jason: “Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd eithriadol Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru pan fyddwn yn Efrog Newydd ac rydym yn edrych ymlaen at dynnu sylw at  statws PGI y cigoedd yn ogystal â'r dulliau cynhyrchu naturiol a chynaliadwy a ddefnyddir gan ffermwyr Cymru a'r gadwyn gyflenwi ehangach. “Mae gan Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru stori wych i'w hadrodd ac rydym yn edrych ymlaen at ei rhannu yn Efrog Newydd.”

You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga