Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd gweminar i’r diwydiant yn cyflwyno manteision gwelliannau geneteg i fusnesau ffermio, ac mae cynhyrchwyr o bob cwr o’r DU yn cael eu hannog i gofrestru ar ei gyfer.

Wedi’i drefnu gan Hybu Cig Cymru (HCC) a chwmni Signet Breeding Services, bydd y weminar yn tynnu sylw at ganlyniadau arwyddocaol prosiectau yn cynnwys RamCompare, prawf epil cenedlaethol y DU. Yn ogystal, bydd cyngor ymarferol yn cael ei ddarparu gan reolwr gwasanaethau bridio defaid Signet, Sam Boon ar sut i ddewis y defaid cywir ar gyfer eich diadell.

Fe’i cynhelir nos Iau 4 Medi am 7:30yh, a bydd y digwyddiad ar-lein yn gyfle i ystyried sut y gellir defnyddio geneteg a genomeg defaid i fynd i’r afael â heriau ar ffermydd a thargedau amgylcheddol.

Yn ogystal â Sam Boon, bydd Dr Heather McCalamn o HCC yn cyflwyno yn ystod y weminar. Meddai: “Mae HCC wedi bod yn bartner yn y prosiect hir dymor RamCompare sydd wedi cynhyrchu canlyniadau gwerthfawr i helpu i gefnogi a hysbysu’r sector ddefaid yng Nghymru, a gyrru gwelliannau geneteg ymlaen. Mae’r gwaith wedi arddangos y gwerth o ddefnyddio hyrddod gyda’u perfformiad wedi’u cofnodi o’r 10% uchaf mewn diadelloedd masnachol ac yn galluogi ffermwyr i ddewis hyrddod terfynol yn hyderus.

“Nid gweminar ar gyfer Cymry yn unig yw hwn, rydym ni’n awyddus i weld ffermwyr o bob cwr o’r wlad yn ymuno ar y noson i glywed mwy am sut y gall y wybodaeth yma gael ei ddefnyddio mewn ffyrdd ymarferol i helpu bridwyr defaid o safbwynt ariannol, cynhyrchiant ac amgylcheddol.”

Ychwanegodd: “Mae’r canfyddiadau yn help i ddatblygu’r diwydiant defaid ymhellach ond hefyd yn ein galluogi i weithio tuag at Sero Net gyda’n gilydd. Yn ogystal, gall y datblygiadau greu tystiolaeth sy’n ein helpu i ategu negeseuon i hyrwyddo ein brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.”

I gofrestru a derbyn y ddolen i’r weminar, cysylltwch â HCC ar 01970 625050 / info@hybucig.cymru erbyn dydd Mercher 3 Medi 2025.

You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga