Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn cael eu cyflwyno i brynwyr a mewnforwyr rhyngwladol wrth i gorff ardoll cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), baratoi i fynychu sioe fasnach bwyd a diod enwog – Anuga.

Fe’i cynhelir yn Cologne rhwng 4 ac 8 Hydref, a bydd HCC yn mynychu'r sioe fasnach ar y cyd ag allforwyr o Gymru.

Mae Anuga yn digwydd bob dwy flynedd ac yn dod â gweithgynhyrchwyr a phrynwyr bwyd a diod o bob cwr o'r byd ynghyd. Mae mwy na 140,000 o dros 200 o wledydd yn ymweld â’r sioe.

Dywedodd Arweinydd Datblygu’r Farchnad HCC, Jason Craig:

“Mae marchnadoedd allforio’n parhau i fod yn llwybr pwysig i sector cig coch Cymru. Rydyn ni’n gweld galw am Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ledled Ewrop a thu hwnt wrth i gwsmeriaid geisio mwy o gynhyrchion cig coch cynaliadwy o ansawdd uchel. Yn ogystal, mae marchnadoedd allforio hefyd yn helpu i gynnal cydbwysedd carcas, gan ategu elw i ffermwyr a’r diwydiant.”

Aeth Jason yn ei flaen i ddweud:

“Mae mynychu Anuga yn caniatáu i allforwyr Cymru gadw cysylltiadau â chwsmeriaid presennol, gweithredu fel ffenestr siop ar gyfer y manwerthwyr o’r Almaen, Rewe ac Edeka, tra hefyd yn archwilio marchnadoedd a mewnforwyr newydd i sicrhau dyfodol llewyrchus i sector cig coch Cymru.”

Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd a chyfleoedd i flasu cynhyrchion ar eu stondin fasnach, mae HCC hefyd yn cynnal derbyniad Blas o Gymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru ddydd Llun 6 Hydref.

You may also like

Twf sylweddol yn niddordeb defnyddwyr wedi’i amlygu gan ymgyrch Cig Oen Cymru 2025/26
Twf sylweddol yn niddordeb defnyddwyr wedi’i amlygu gan ymgyrch Cig Oen Cymru 2025/26
Hybu Cig Cymru yn Arddangos Cig Oen Cymru PGI yn Foodex Japan 2026
Hybu Cig Cymru yn Arddangos Cig Oen Cymru PGI yn Foodex Japan 2026
Bydwragedd yn clywed am fanteision iechyd cig coch
Bydwragedd yn clywed am fanteision iechyd cig coch
Mynd â Chig Oen Cymru i bencadlys Tesco
Mynd â Chig Oen Cymru i bencadlys Tesco