Fel rhan o’i gylchgwaith eang, mae HCC yn ymgysylltu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol i rannu adnoddau ffeithiol am gig coch, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Bu aelodau o’r tîm yn arddangos yng Nghynhadledd y Coleg Brenhinol Bydwragedd ym mis Chwefror i dynnu sylw at rôl bwysig cig coch yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. I bwysleisio’r neges yma eto, mynychodd HCC Ŵyl Mamolaeth a Bydwragedd yng Nghaerdydd ym mis Medi.
Yn ystod y digwyddiad, bu’r tîm yn siarad gyda bydwragedd am y maetholynnau a fitaminau pwysig sydd mewn cig coch a rhoi rysetiau iddynt i’w rhannu gyda’u cleifion. Cynhaliodd Swyddog Gweithredol Defnyddwyr HCC, Elwen Roberts arddangosiadau coginio i ddenu’r dorf, gan gynnig samplau o brydau cytbwys a fyddai’n cynnig yr holl fineralau pwysig i ferched beichiog i roi hwb i faeth y corff.
Yn ogystal, cydweithiodd HCC gyda’r dietegydd arweiniol, Sioned Quirke a fu’n cyflwyno ar y testun ‘Bwyta’n iach ar gyfer iechyd cynenedigol ac ôl-enedigol’. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y GIG ac yn breifat, a gradd feistr mewn Ymarfer Dieteg Uwch, roedd ei chyngor yn cynnwys dewis toriadau cig heb ormod o fraster a thorri unrhyw fraster amlwg, sicrhau bod cig yn cael ei goginio’n dda (heb fod yn binc y tu mewn) ac osgoi cynnyrch sy’n cynnwys afu yn ystod beichiogrwydd. Pwysleisiodd Sioned hefyd werth maethol cig coch ar gyfer merched beichiog fel ffynhonnell ardderchog o brotin a haearn.
Meddai Sioned: “Gall cig coch heb ormod o fraster fel cig eidion, cig oen a phorc fod yn ffynhonnell dda o brotin, haearn, sinc a Fitamin B12. Os yn feichiog, gall bwyta cig coch wedi ei goginio ym maint y dogn a argymhellir (70g y dydd neu 500g dros wythnos) fod â nifer o fanteision iechyd megis cryfhau’r system imiwnedd, cyflenwi ynni hirdymor, adeiladu a thrwsio meinweoedd y corff a diogelu’r corff rhag heintiau.”
Meddai Elwen Roberts: “Mae bwyta’n iach yn ystod beichiogrwydd yn bwysig ar gyfer y fam a’r babi. Mae’n ddoeth i fwyta amrywiaeth o fwydydd gwahanol bob dydd i gael y cydbwysedd cywir o faetholynnau, ac mae hynny’n cynnwys cig coch.
“Cawson ymateb cadarnhaol iawn gan y bydwragedd a fu’n siarad gyda ni. Ein gobaith yw y byddan nhw’n annog eu cleifion ym mhob cwr o Gymru i fwynhau cig coch fel rhan o’u deiet.”
Mae adnoddau HCC ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, ac addysgwyr yn ogystal, ar gael ar ein gwefan arbennig: <https://redmeathub.wales/gb/cy/>





