Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Yn ystod y chwe mis diwethaf mae HCC wedi ceisio ymgysylltu â’r holl gadwyn gyflenwi  cig coch i ddatblygu darlun mwy cyflawn o’r cyfleoedd a bygythiadau a wynebir gennym fel diwydiant er mwyn gallu pennu  blaenoriaethau fel rhan o’n strategaeth ar gyfer y dyfodol.  (Gweledigaeth 2030).

Mae’r ymgysylltu wedi golygu bod yn bresennol mewn 16 o farchnadoedd da byw; cynnal arolwg ymhlith ffermwyr;  cyfarfodydd gydag unigolion a grwpiau i gasglu adborth ffurfiol ac anffurfiol; a chloi wrth wneud ‘cais am adborth’ ffurfiol gan grwpiau cynrychiadol a sefydliadau ehangach o dalwyr ardoll.

Rydym bellach yn tynnu at derfyn y broses hon; mae’r strategaeth ar fin cael ei chwblhau a’r bwriad yw ei chyhoeddi yn gynnar yn 2026.

Er mwyn ehangu ein hymdrechion ymgysylltu yn y dyfodol, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol ledled Cymru yn gynnar yn 2026 er mwyn diweddaru talwyr ardoll am y strategaeth, a bydd hyn yn disodli ein cynhadledd flynyddol draddodiadol ym mis Tachwedd.

Yn y cyfamser, bydd HCC unwaith eto yn mynychu Ffair Aeaf Frenhinol Cymru (24, 25 Tachwedd) eleni.  Felly, cofiwch alw heibio i’n gweld ar ein stondin.

You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga