Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Mae Prosiect Llinell Sylfaen yr Amgylchedd yn brosiect peilot ar gynaliadwyedd sydd â’r nod o asesu effaith ffermydd ar draws y DU ar yr amgylchedd.

 

 

Mae’r peilot yn fenter ar y cyd rhwng y byrddau ardoll HCC, AHDB a QMS. Bwriad y gwaith yw ailddiffinio sut y caiff ffermwyr eu hadnabod am gynhyrchu bwyd a nwyddau amgylcheddol, graddfa a gallu stociau carbon naturiol ac atafaelu, a chynnydd y diwydiant tuag at sero net.

Prif amcanion y prosiect:

  • Darparu data amgylcheddol cywir o’r fferm i’r diwydiant, gan leihau’r ddibyniaeth ar ddata cyfartalog cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Arddangos rôl hanfodol amaethyddiaeth y DU yn y broses o leihau nwyon tŷ gwydr, creu stociau carbon, gwella iechyd y pridd a chynnal bioamrywiaeth.
  • Galluogi ffermwyr i gymryd camau tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Mae wyth fferm yng Nghymru wedi’u dewis i gymryd rhan yn y prosiect peilot, yn seiliedig ar ffactorau yn ymwneud â lleoliad daearyddol, topograffi, y math o bridd a systemau ffermio. Byddant yn mesur y canlynol:

  • Stociau carbon: carbon uwchben y ddaear mewn coed a gwrychoedd, ac o dan y ddaear yn y gwreiddiau a’r pridd, a fydd yn rhoi syniad o’r gallu i atafaelu – y gallu i’w ddal, diogelu a storio carbon.
  • Sefyllfa carbon net: bydd archwiliad carbon yn adolygu cydbwysedd allyriadau nwyon tŷ gwydr busnesau ffermio yn erbyn y carbon sy’n cael ei symud a’i atafaelu, gan roi amcangyfrif o sefyllfa carbon net y fferm.
  • Dŵr ffo: Bydd y prosiect hefyd yn creu map dŵr ffo o’r mesuriadau sy’n cael eu cymryd.

Bydd y mesuriadau yma’n darparu llinell sylfaen o nodweddion amgylcheddol yr wyth fferm, a man cychwyn ar gyfer mesur newidiadau dros amser. Mae proses o ail-fesur yn cael ei gynllunio ar gyfer blwyddyn pump y prosiect peilot, gan alluogi gwelliannau i gael eu mesur, eu hadrodd a’u hadnabod.

 

Mwy o wybodaeth

Y diweddaraf gan AHDB – cliciwch yma

Cyfarfod y ffermwyr

01
Alwyn Phillips, Fferm Penygelli, Caernarfon

Mae Fferm Penygelli yn fferm tir isel, cig eidion a defaid sydd wedi’i lleoli ger Caernarfon. Mae’r arwynebedd sy’n cael ei ffermio yn tua 63 hectar ac yn cynnwys 3.61km o wrychoedd. Mae’r glaswelltir (63 hectar) yn cynnal buches sugno o tua 80 pen (yn cynnwys lloi) a gwerthir yr epil fel gwartheg stôr, gan ddefnyddio silwair a gaiff ei gynhyrchu ar y fferm. Ynghyd â hynny, mae diadell o 340 o famogiaid sy’n cynhyrchu hyrddod ifanc ac ŵyn tew a gaiff eu gorffen ar system bori ddwys ac ychydig o ddwysfwyd.

02
Andrew Edwards, Fferm Whitehall, Nelson

Mae Andrew yn rheoli Fferm Whitehall – daliad teuluol 170-acer gyda system borthiant ddwys, yn cynnwys buches sugno ucheldir a menter gorffen ŵyn. Lleolir y fferm 550 troedfedd uwchben lefel y môr yn Llanfabon, ger Nelson ym Morgannwg Ganol ac mae’n eistedd ar bridd clai tywodlyd lôm. Mae’r fenter cig eidion yn cynnwys 18 buwch sugno, sy’n cael eu cadw dan do yn y gaeaf, gyda’r lloi’n cael eu gwerthu’n 12 mis oed fel gwartheg stôr. Mae’r fenter defaid yn cynnwys 240 o famogiaid Mynydd Cymreig. Gwerthir yr ŵyn o ddiwedd Awst hyd at fis Ionawr. Gwerthir 80% ohonynt, ac 20% fel ŵyn stôr ar ôl dewis 50-60 o ddefaid magu bob blwyddyn.

Mae Mr Edwards yn ymwybodol o’r amgylchedd a dewisodd fod yn rhan o’r prosiect yma er mwyn rhoi ffigwr ar berfformiad amgylcheddol y fferm, canfod ardaloedd i’w gwella ac asesu storfeydd carbon. Bu’r busnes yn rhan o Gynllun Cynefin Cymru, Glastir a Glastir Uwch cyn hynny. Mae’r coetir ar y fferm yn gyfuniad o goetir wedi’i reoli a heb ei reoli.

03
Catrin George, Fferm Tirlan, Brechfa

Mae Fferm Tirlan yn fferm fynydd ac ucheldir, cig eidion a defaid sydd wedi’i lleoli ger Brechfa. Mae’r ardal a gaiff ei ffermio yn tua 88 hectar ac yn cynnwys 17.3 hectar o goetir ac 8.5km o wrychoedd. System laswelltir sydd yno yn bennaf, gyda phridd sy’n draenio’n rhydd. Mae’r ardal o laswelltir (69.5 hectar) yn cynnal buches sugno cig eidion o tua 18 pen (gyda dilyniant ychwanegol). Mae dwy fenter ddefaid yn cynnwys defaid Penfrith Biwla (200 pen) a diadell croesfrid o tua 150 o famogiaid. Mae’r diadelloedd yma’n cynhyrchu ŵyn tew sy’n cael eu gorffen ar laswellt.

04
Haulwen Jones, Rhoswen, Blaenau Ffestiniog

Fferm fynydd yw Rhoswen a leolir yn ardal Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru. Mae’r fferm yn cynnwys 61 Hectar, a gaiff eu defnyddio ar gyfer pori a rhannau ar gyfer gwneud silwair, yn ogystal â 5 Hectar o goetir. Prif fenter y fferm yw diadell o 300 o famogiaid. Mae cyfartaledd o 250 o ŵyn yn cael eu gorffen dros gyfnod o 12 mis. Mae’n cadw 21 buwch sugno hefyd, gyda chyfartaledd o 21 llo yn cael eu magu dros 12 mis. Fe samplwyd y pridd ar y fferm bedair blynedd yn ôl gan ADAS a darganfuwyd bod y pridd yn fath trwm gyda rhywfaint o fawn.

05
Huw & Daniel Owen, Ciloes Uchaf, Pen-y-bont-fawr

Mae Ciloes Uchaf yn fferm ucheldir ger Croesoswallt. Mae hi’n fferm 126 Hectar gyda’r mwyafrif ohono’n dir cynhyrchiol a ddefnyddir ar gyfer pori, gwneud silwair a thyfu maip (19.85 Acer) gydag 11 Acer o goetir. Prif fenter y fferm yw diadell o 640 o famogiaid, gyda chyfartaledd o 1150 o ŵyn yn cael eu gorffen. Mae yno 39 o fuchod sugno ac 1 tarw, gyda 24 o wartheg stôr ar gyfartaledd yn cael eu pesgi hyd at 14 mis. Mae’r fferm yn gweithredu system pori cylchdro gyda gwndwn llysieuol, ac mae’r pridd yn cael ei brofi bob tair mlynedd ar gaeau sy’n cael eu ffermio’n ddwys. Pridd o fath lôm clai yw’r prif fath ac mae’n cael ei ystyried yn un trwm.

06
Keri & Julie Daves, Fferm Glwydcaenewydd, Aberhonddu

Mae Glwydcaenewydd yn fferm wartheg a defaid organig a leolir yng Nghrai, ger Aberhonddu. Mae’r fferm yn cynnwys 300 acer o dir uchel ar sylfaen o bridd tywodfaen coch. Mae’r fenter yn cynnwys buches cig eidion o 45 buwch sugno Stabiliser a diadell o 145 o ddefaid “black face” sy’n wyna’n gynnar, ynghyd â diadell o 100 o ddefaid Llŷn sy’n wyna’n hwyr, a 250 o ddefaid Aberfield.

Mae’r teulu Davies yn rhan o Gynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd a Grŵp Dŵr y Bannau.

07
Peter Morris, Fferm Brownslate, Penfro

Rheolir Fferm Brownslate gan Peter, ei wraig a’i fab, ac mae’r daliad teuluol yn un 300-acer organig gyda system mewnbwn isel sy’n seiliedig ar borthiant (glaswellt, silwair a gwair), sy’n cynnwys buches sugno llawr gwlad a menter gorffen ŵyn. Lleolir y fferm gyferbyn ag aber Aberdaugleddau ac mae’n eistedd ar bridd lôm ysgafn dros sylfaen o dywodfaen coch.

Mae’r fenter cig eidion yn cynnwys tua 70-80 o wartheg, gyda 25 o wartheg sugno organig Charolais x Du Cymraeg gyda dilynwyr. Cedwir y gwartheg i gyd y tu allan dros y gaeaf nes y byddant wedi’u gorffen. Mae’r fenter defaid yn cynnwys 160 o famogiaid organig Suffolk x Texel x Llyn sy’n wyna ym mis Chwefror a Mawrth.

Gwerthir yr ŵyn o ddiwedd Mehefin tan fis Ebrill tra bod ŵyn stôr yn cael eu cadw dros y gaeaf a’u gwerthu’n dew. Gwerthir y gwartheg i gyd i ABP Ellesmere, a’r ŵyn i Dunbia, Llanybydder gyda’r hen ddefaid yn mynd i Farchnad Hendy-gwyn ar Daf.

Mae’r teulu Morris yn ymwybodol o’r amgylchedd ac fe wnaethant ddewis bod yn rhan o’r prosiect i roi ffigwr ar berfformiad amgylcheddol y fferm, i ganfod meysydd i’w gwella ac asesu storfeydd carbon. Roedd y busnes yn rhagweithiol o ran materion organig a’r amgylchedd yn yr 1990au ac yn rhan o’r cynllun cynefin cychwynnol, ac yna yn Tir Gofal a Glastir. Erbyn hyn, mae’r fferm yn rhan o Gynllun Cynefin Cymru a’r Cynllun Organig. Mae’r ardaloedd o goed yn gyfuniad o ardaloedd wedi’u rheoli a heb eu rheoli.

08
Stephen a Lisa Hardwick, Fferm Upper Talcoed, Llandrindod Wells

Mae Fferm Upper Talcoed yn fferm ucheldir, cig eidion a defaid ger Llandrindod. Mae’r ardal sy’n cael ei ffermio yn tua 149 hectar ac yn cynnwys 16 hectar o goetir ac 8.64km o wrychoedd. Mae’r pridd o fath clai, a system laswelltir yw hi’n bennaf.

Mae’r glaswelltir (131 hectar) yn cynnal buches cig eidion o tua 25 pen (gydag ychwanegiadau) a gwerthir yr epil fel gwartheg stôr. Ynghyd â hynny, mae ganddynt system cig eidion Wagu. Mae dwy fenter ddefaid yn cynnwys diadell Texel bedigri (50 o famogiaid) a diadell fasnachol o tua 700 o famogiaid magu. Mae’r rhain yn cynhyrchu ŵyn tew sy’n cael eu gorffen ar laswellt a dwysfwyd.