Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi canlyniadau cryf o'i ymgyrch farchnata ddiweddaraf ar gyfer Cig Oen Cymru ar ôl cyrraedd dros dair miliwn o gartrefi a gafodd eu targedu ledled Cymru a Lloegr.
Gan adeiladu ar effaith gadarnhaol yr ymgyrch 'Unigryw i Gymru. Arbenigwyr yn eu Maes’ yn 2023 a 2024, parhaodd HCC i ddefnyddio negeseuon brand craidd, drwy gydol 2025 ac i mewn i 2026, gyda chefnogaeth asedau creadigol wedi'u hadnewyddu. Roedd y delweddau a'r straeon wedi'u diweddaru yn atgyfnerthu rhinweddau naturiol, maethlon a thraddodiadol Cig Oen Cymru drwy gydol yr haf a'r hydref - wedi'u hamseru i gyd-fynd ag adeg brig y cynnyrch ar gyfer argaeledd.
O ran argraffiadau, gwelwyd yr ymgyrch aml-gyfrwng dros 34 miliwn o weithiau, sef cynnydd o 55% mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol, ac roedd yn gyfrifol am dros 200,000 o gliciadau i wefan defnyddwyr Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru – lle mae llwythi o ryseitiau ac awgrymiadau coginio. Mae hyn yn gynnydd o 77% oddi ar 2024, gan ddangos twf sylweddol o ran ymgysylltiad a diddordeb defnyddwyr.
Am y tro cyntaf, defnyddiodd HCC dechnoleg hysbysebu arbenigol (AdMaxim) i gyfeirio cynulleidfaoedd at fân-werthwyr ledled Cymru a Lloegr sydd â chyflenwad o Gig Oen Cymru. Bu hyn yn gyfrifol am dros bedair miliwn o argraffiadau, gyda mwy na 10,000 o ddefnyddwyr yn chwilio am gyflenwyr ac ysbrydoliaeth ar gyfer ryseitiau.
Hefyd, bu hysbysebion teledu yn chwarae rhan ganolog. Darlledwyd hysbyseb Cig Oen Cymru trwy Sky i gartrefi wedi'u targedu yn ne-ddwyrain Lloegr, lle nododd tri o bob pump o wylwyr eu bod yn teimlo'n fwy cadarnhaol ynghylch ffermwyr Cymru ar ôl gweld yr ymgyrch. Roedd defnyddwyr yn teimlo’n fwy cadarnhaol ynghylch Cig Oen Cymru fel brand premiwm ar ôl gwylio’r hysbyseb. Ar S4C, gwelwyd yr hysbyseb, o leiaf unwaith, mewn dros 800,000 o gartrefi, gyda chynnydd nodedig ym mis Tachwedd wrth i bobl wylio Gemau Rhyngwladol yr Hydref.
Ymddangosodd y cyn-chwaraewr rygbi a’r llysgennad brand Jonathan ‘Fox’ Davies mewn fideos o ryseitiau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol, gan gyfrannu dilysrwydd a hygrededd i hybu ymgysylltiad. Bu hyn yn ysbrydoliaeth i ddefnyddwyr er mwyn dewis Cig Oen Cymru am ei flas, ei ansawdd a'i gysylltiad â threftadaeth ffermio Cymru. Pan ofynnwyd iddo sut roedd yn teimlo wrth weithio ar yr ymgyrch, dywedodd Jonathan:
“Fel Cymro balch, a rhywun sy’n dwlu ar ei fwyd, mae’n wych bod yn gweithio gyda Chig Oen Cymru. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw treftadaeth ffermio i’n cymunedau gwledig a’r rhan y mae’n ei chwarae wrth gadw’r economi a’r cymunedau’n fyw.”
Dywedodd Arweinydd Ymgysylltiad Brand HCC, Pip Gill:
“Mae canlyniadau ymgyrch 2025/26 HCC yn dangos momentwm cryf i frand Cig Oen Cymru ac yn tynnu sylw at werthfawrogiad cynyddol y defnyddwyr o’i darddiad, ei gynaliadwyedd a’i ansawdd premiwm.”




