Gwella perfformiad diadelloedd mynydd a mamol Cymru drwy welliant genetig
Nod y gwaith hwn yw cefnogi bridwyr i wella’u cynhyrchiant, effeithlonrwydd a’u perfformiad amgylcheddol, gan hefyd eu galluogi i wneud penderfyniadau bridio gwybodus, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae HCC yn falch o gyflwyno Cam 2 o brosiect Geneteg Defaid Cymru (WSG) ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r cam hwn yn cefnogi’r defnydd o welliannau genetig o fewn diadelloedd defaid yng Nghymru. Bydd yn cynnig cymorth i’r ffermwyr sydd eisoes yn rhan o’r gwaith, yn ogystal ag annog diadelloedd newydd i ymuno.
Datblygwyd set ddata unigryw fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd (a reolwyd yn flaenorol gan HCC) a Cham 1 o’r WSG (a reolwyd yn flaenorol gan Cyswllt Ffermio), a bydd y data yma’n cael ei ddatblygu ymhellach yn ystod Cam 2.
Bydd dangosyddion perfformiad allweddol cadarn, cynlluniau gweithredu wedi’u teilwra ar lefel fferm, a phortffolio o brosiectau ymchwil a gynlluniwyd i ysgogi arloesedd ar draws y sector, hefyd yn cael eu datblygu.
Bydd y data genetig newydd a gesglir yn cryfhau meincnodi’r diwydiant ac yn cefnogi cynllunio busnes tymor hir, gan gryfhau’r cyflenwad, y cyflwyniad a gallu bridwyr i farchnata eu diadelloedd.
Diddordeb mewn ymuno?
O 1 Gorffennaf 2026, mae HCC yn gwahodd ffermwyr i fynegi eu diddordeb mewn ymuno â’r cynllun am y tair blynedd nesaf.
Byddant yn elwa o gymorth ymarferol, technegol ac ariannol i fanteisio ar enillion genetig tymor hir.
Bydd bridwyr newydd yn cael:
- Genoteipio ŵyn wedi’i ariannu’n llwyr ar gyfer adnabod rhianta sy’n seiliedig ar DNA
- Gwerthusiadau genetig a sganio braster cefn uwchsain wedi’u hariannu
- Meincnodi perfformiad eu stoc
- Mynediad at dechnolegau genetig a genomeg o’r radd flaenaf
- Canllawiau a chymorth gyda chofnodi DNA pedigri ac â llaw
Bydd ffurflen gais ar gael o’r 1af o Orffennaf.
Yn y cyfamser, cysylltwch â HCC am fwy o wybodaeth: info@hybucig.cymru / 01970 625050


