Cyhoeddodd Hybu Cig Cymru (HCC) raglen ysgoloriaeth ehangach yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw (dydd Mercher 22 Gorffennaf 2026), gydag ymgeiswyr llwyddiannus bellach yn gallu gwneud cais am hyd at £5,000 tuag at daith astudio o’u dewis sy'n gysylltiedig â chig coch.
Mae’r cyfnod ymgeisio yn dechrau heddiw a bydd yn para tan 31 Awst 2026, gan roi cyfle i unigolion uchelgeisiol o bob rhan o gadwyn gyflenwi cig coch Cymru ddatblygu eu gwybodaeth, archwilio arferion gorau yn fyd-eang a dod â mewnwelediadau gwerthfawr yn ôl i Gymru.
Yn ogystal, cafodd yr ysgoloriaeth ei hehangu eleni i adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodir yng Ngweledigaeth Diwydiant Cig Coch a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan HCC, gan greu cyfleoedd newydd i ystod ehangach o ymgeiswyr.
Mae'r Weledigaeth yn nodi tair blaenoriaeth allweddol ar gyfer dyfodol y diwydiant:
- Cynyddu gwerthiant cig coch Cymru o ran cyfaint a gwerth;
- Datblygu ac arwain mentrau sy'n gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol; a
- Darparu eiriolaeth sy’n ragweithiol, yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y sector.
Gofynnir i ymgeiswyr am Ysgoloriaeth 2026 ddangos sut mae eu rhaglen astudio arfaethedig yn cyd-fynd ag o leiaf un o'r blaenoriaethau hyn ac yn cyfrannu at lwyddiant diwydiant cig coch Cymru yn y dyfodol.
Dywedodd John Richards, Rheolwr Strategaeth a Pholisi'r Dyfodol HCC: “Mae eleni yn nodi pennod newydd gyffrous i Ysgoloriaeth HCC. Drwy gynyddu'r cyllid sydd ar gael ac ehangu cwmpas y prosiectau cymwys, rydym yn agor y drws i ystod ehangach byth o unigolion talentog a brwdfrydig.
"Rydym eisiau clywed gan bobl reit ar draws y sector cig coch – o gynhyrchwyr, proseswyr a mân-werthwyr i'r rhai sy'n gweithio ym meysydd cynaliadwyedd, economeg, marchnata a chyfathrebu. Beth bynnag yw eich diddordebau, os gallwch chi helpu i gryfhau dyfodol cig coch Cymru, rydym eisiau clywed eich syniadau.”
Mae Ysgoloriaeth HCC yn cynnig cyfle unigryw i deithio, dysgu gan fusnesau a sefydliadau blaenllaw, ac ennill profiad uniongyrchol o ddulliau arloesol o bob cwr o'r byd. Mae enillwyr yr Ysgoloriaeth yn dychwelyd gyda gwybodaeth newydd, safbwyntiau arloesol a syniadau ymarferol sy’n gallu gwneud gwir wahaniaeth i'r diwydiant yng Nghymru.
Ychwanegodd John: “Os oes gennych gynnig cryf, awydd gwirioneddol i ddysgu ac ymrwymiad i helpu i hybu'r diwydiant, gallai hwn fod yn gyfle perffaith i chi.”
Mae gan Ysgoloriaeth HCC enw da ers dros 20 mlynedd am gefnogi unigolion uchelgeisiol i ddatblygu eu harbenigedd, adeiladu rhwydweithiau rhyngwladol a chynhyrchu syniadau sy'n fuddiol i'r sector cig coch ehangach yng Nghymru.
Bydd enillydd y llynedd, Ben Lloyd James, yn cyflwyno rhai o'i ganfyddiadau mewn derbyniad ar stondin HCC yn Sioe Frenhinol Cymru. Meddai: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf yma wedi fy ngwthio i dyfu a herio fy hun, a dod nol gyda safbwynt newydd sbon. A dyna'n union sydd ei angen ar ddiwydiant cig coch Cymru wrth wynebu'r heriau nesaf. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n meddwl amdani i wneud cais: buddsoddiad ynoch chi'ch hun yw e, ond mae'n fuddsoddiad yn nyfodol y diwydiant hefyd."
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 mlwydd oed a bod yn barod i gyflwyno eu canfyddiadau i grwpiau diwydiant ledled Cymru. Daw unigolion llwyddiannus yn aelodau o rwydwaith unigryw o gyn-enillwyr – Cymdeithas Ysgoloriaeth HCC, sydd ar hyn o bryd dan gadeiryddiaeth y ffermwr gwartheg cig eidion a defaid, James Powell.
Mae mwy o wybodaeth, ynghyd â ffurflen gais, ar gael ar wefan HCC: https://meatpromotion.wales/cy/archwilio-adnoddau-arbenigol/adnoddau-ysgoloriaeth-a-gyrfaoedd/ysgoloriaeth-hcc/




