Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu cigoedd premiwm gorau’r byd – ac felly mae’n hanfodol bod siopwyr byd-eang yn gwybod popeth amdanynt ac, yn bwysicaf oll, lle i’w prynu.

Mae HCC yn gwarchod ac yn tynnu sylw at frandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Ar ôl mwy nag ugain mlynedd, mae’r brandiau eiconig hyn wedi dod yn arloeswyr dibynadwy sy’n arwain ymgyrchoedd hysbysebu a hyrwyddo arobryn.

Maent hefyd yn ymddangos yn siopau mân-werthwyr cadwyn, cigyddion annibynnol a darparwyr gwasanaethau bwyd a gellir eu cyrchu yma: www.eatwelshlambandwelshbeef.com

Ar wahân i dynnu sylw at gigoedd o’r safon uchaf a’r blas gorau, mae’r brandiau poblogaidd yn helpu i amlygu ein system gynhyrchu gynaliadwy nad yw’n ddwys – a gafodd ei henwi’n ‘Ffordd Gymreig’ o gynhyrchu gan HCC.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am sut y gall prynu cig a gynhyrchir yng Nghymru fod yn rhan o’r ateb i newid yn yr hinsawdd.

Marchnata Gartref

Yn y DG, mae HCC yn hyrwyddo Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru drwy gyfrwng ymgyrchoedd hysbysebu cynhwysfawr, integredig, cost-effeithiol wedi’u targedu at ddenu cwsmeriaid ar draws ein marchnadoedd allweddol.
Gallwch weld ein hysbysebion ar y teledu; clywed sôn ar y radio; gweld ein hysbysfyrddau mewn lleoliadau allweddol; dilyn ein gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook, Pinterest ac Instagram; mynychu digwyddiadau i’r diwydiant lle rydym yn cymryd rhan neu fynd i’n sioeau teithiol i ddefnyddwyr neu addysg – sydd i gyd yn rhan o’n hymdrechion i annog siopwyr i brynu cynnyrch cig coch gwych o Gymru gan eu mân-werthwr lleol i’w fwynhau gartref.

Mae HCC yn gweithio gyda mân-werthwyr yn y DG – o gigyddion lleol i archfarchnadoedd – sy’n gwerthu cig coch o Gymru ac sy’n rhannu ein hyrwyddiadau a’n cystadlaethau ar becynnau yn ogystal â deunyddiau mân-werthu,
Mae gwefan bwrpasol HCC ar gyfer y fasnach fwyd i’w gweld yma: HCCTrade.co.uk

Fideos Hyrwyddo ar gyfer Bwyta Cig Oen ac Eidion Cymru

Welsh farmers stood in field with cows
Play
Y Stori Tu Ôl i'r Bwyd
Play
Arferion Ffermio
Play
Olrheiniadwyedd
Play
Cynaladwyedd

Marchnata yn fyd-eang

Swyddogaeth HCC yw parhau i ddatblygu marchnadoedd sy’n bodoli a helpu’r diwydiant i gael mynediad i farchnadoedd newydd ar gyfer cig coch Cymru.

Mae HCC wedi adeiladu presenoldeb marchnata byd-eang ac mae, gyda chefnogaeth ein rhanddeiliaid, yn agor drysau i fusnesau allforio newydd, yn adeiladu ar bortffolio cynyddol o enillion sefydledig ac yn cryfhau ein rhwydweithiau B2B rhyngwladol cynyddol.

Rydym yn cynorthwyo gydag allforio cig coch Cymru trwy ymchwil farchnata, deunyddiau hyrwyddo, asiantau rhyngwladol, presenoldeb mewn arddangosfeydd allweddol a chyfarfodydd gyda mewnforwyr.

Rydym yn cefnogi teithiau i ddod â mewnforwyr, mân-werthwyr a chyflenwyr i Gymru o wledydd tramor i hyrwyddo diwydiant cig coch Cymru a dangos sut y byddai prynu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn fanteisiol i’w busnesau.
Hefyd, rydym yn teithio gydag allforwyr cig coch Cymru i gynyddu’r gwerthiant mewn gwledydd sydd eisoes yn mewnforio Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ac i chwilio am farchnadoedd newydd i’n hallforwyr.

Gwasanaeth Bwyd

Mae’r sector gwasanaeth bwyd yn un bwysig ar gyfer cig coch Cymru.

Mae HCC yn cefnogi cyflenwyr y gwasanaeth bwyd a hefyd yn gweithio gyda nhw i sicrhau fod cig coch o Gymru yn cael ei labelu’n gywir a’i farchnata i westai, tai bwyta a chwmnïau arlwyo.

Rydym hefyd yn cwrdd ag awdurdodau lleol, sefydliadau eraill o’r sector gyhoeddus, canolfannau mawr a threfnwyr digwyddiadau i’w hannog i brynu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.