Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Beth yw dynodiad daearyddol gwarchodedig?

Dynodiad daearyddol gwarchodedig (PGI) Mae PGI yn pwysleisio’r berthynas rhwng y rhanbarth daearyddol penodol ac enw’r cynnyrch, lle mae ansawdd, enw da neu nodwedd arall i’w briodoli yn ei hanfod i’w darddiad daearyddol.

Dyfarnwyd statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Gorffennaf 2003 a Thachwedd 2002 yn ôl eu trefn. Mae HCC yn ystyried y statws PGI yma i fod o fantais economaidd anferthol i ddiwydiant cig coch Cymru gan ei fod yn tynnu sylw at darddiad a rhinweddau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. O’r 1 Ionawr 2021 daeth yr holl enwau cynhyrchion a ddiogelir yn yr UE hefyd yn cael eu gwarchod o dan gynllun GI y DU.

Mae gan HCC gyfrifoldeb cyfreithiol i weithredu fel gwarcheidwaid y dynodiad PGI ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Er mwyn cyflawni’r cyfrifoldeb hwn ac i sicrhau bod y brandiau’n cael eu diogelu, mae HCC wedi rhoi cynllun gwirio ar waith ar gyfer lladd-dai a safleoedd torri. Golyga’r cynllun hwn bod modd rheoli a monitro’n ofalus i sicrhau mai dim ond cig oen ac eidion sy’n cwrdd â’r fanyleb sy’n cael ei labeli fel cig o Gymru.

Ym mhob rhan arall o’r gadwyn gyflenwi, gwneir y rheoli a’r monitro gan Swyddogion Safonau Masnach yr awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau mai dim ond cig oen ac eidion sy’n cwrdd â’r fanyleb isod a werthir i gwsmeriaid fel cig o Gymru.

  • Wedi’i eni a’i fagu yng Nghymru;
  • Yn gwbwl olrheinadwy; ac
  • Wedi’i ladd a’i brosesu mewn lladd-dy/safle prosesu cig sydd wedi’i awdurdodi gan HCC.