Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Mae HCC ynghlwm ag ymchwil arloesol sydd o fudd i’r diwydiant amaeth a chynhyrchu cig yng Nghymru.

Mae’n portffolio presennol yn cynnwys prosiectau ar reoli tir glas, iechyd anifeiliaid a geneteg.

Mae HCC hefyd yn cefnogi ysgoloriaethau ôl-raddedig sy’n gysylltiedig â phrosiectau ymchwil o fewn y diwydiant.

Meat Minds logo

Cig Weithio

Mae Cig-weithio yn gynllun 12 mis sydd wedi’i lunio i ddatblygu a chefnogi’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru.

Arfor

Mae prosiect peilot newydd, sy’n ceisio hybu proffidioldeb a chynaliadwyedd sector Cig Eidion Cymru.

Prosiect GrasscheckGB

Glaswellt da yw sylfaen y diwydiant cig oen a chig eidion yng Nghymru.

Ysgoloriaeth HCC

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i dreulio hyd at chwe wythnos yn cael profiad o’r diwydiant defaid a/neu gig eidion mewn gwlad o’u dewis nhw

Yn 2018, dyfarnwyd cyllid i HCC am fenter strategol 5-mlynedd –Rhaglen Datblygu Cig Coch

Mae’r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn anelu at sichrau fod y sector cig coch yn barod at y dyfodol; gan hybu effeithlonrwydd, proffidioldeb a chynaliadwyedd drwy’r gadwyn gyflenwi, a sichrau cynnyrch o safon uchel y medrir ei olrhain, fydd yn apelio at gwsmeriaid y dyfodol.

Bydd yn cynnwys tri phrosiect pwysig: Stoc+, Cynllun Hyrddod Mynydd ac Ansawdd Cig Oen Cymru fydd yn canolbwyntio ar iechyd anifeiliaid, geneteg ac ansawdd bwyta cig.

Prosiectau Rhaglen Datblygu Cig Coch

Rhaglen Datblygu Cig Coch

Stoc+

Gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Cynllun Hyrddod Mynydd

Buddsoddi mewn amaeth ucheldir Cymru a’r economi wledig sy’n ddibynnol arni trwy ddefnyddio’r dechnoleg bridio diweddaraf a recordio perfformiad yn y sector fynydd Gymreig.

Ansawdd Cig Oen Cymru

Nod prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru yw ymchwilio i effaith ffactorau ar y fferm a ffactorau prosesu ar ansawdd bwyta Cig Oen Cymru.

Lamb joint in brown paper with rosemary sprigs

Prosiect BeefQ

Mae HCC hefyd yn bartner ym mhrosiect BeefQ, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, sy’n anelu at gynyddu safon bwyta a gwerth cynnyrch Cig Eidion Cymru PGI.