Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Maedi Visna

Y graddau y mae Maedi Visna (MV) yn effeithio ar ddiadelloedd defaid masnachol yng Ngwledydd Prydain 

Cefndir

Mae Maedi Visna (MV) yn heintiad gan firws araf sy’n cael effaith sylweddol ar les y ddafad sy’n cael ei heintio yn ogystal â chael effaith ar y ddiadell yn gyffredinol. Bydd y clefyd yn cymryd amser hir i fagu ac yn achosi colli pwysau’n bennaf – er y gall hefyd achosi niwmonia, mastitis, parlys ac, o bryd i’w gilydd, arthritis. Mae’r dirywiad yng nghyflwr anifeiliaid yn cael sawl canlyniad mewn diadell, gan gynnwys llai o ffrwythlondeb; ŵyn llai o faint a gwannach (a chyfradd uwch ohonynt yn marw); mamogiaid yn cynhyrchu llai o laeth a’r ŵyn wedyn ddim yn tyfu cystal; mwy o famogiaid yn gorfod cael eu hamnewid am fod mamogiaid tenau’n cael eu gwaredu’n gynnar; a chyfradd uwch o ddefaid llawn-dwf yn marw. Nid lles yr anifeiliaid llawn-dwf heintiedig yn unig sy’n dioddef ond lles eu hepil yn ogystal. Mae’r mastitis gwagleol sy’n cael ei achosi gan yr heintiad yn golygu bod llai o laeth yn cael ei gynhyrchu a bod ŵyn yn newynog o’r herwydd. Fel canlyniad, bydd yr ŵyn yn cnoi’r tethau gan achosi cynnydd yn nifer yr achosion o fastitis bacterol. Mae hyn yn achosi poen sylweddol i’r famog – a marwolaeth yn aml – neu o leiaf lai o laeth yn yr hanner hwnnw o’r gadair. Mae defaid sy’n dioddef o glefydau yn fwy tueddol o farw o heintiadau eraill megis niwmonia pasteurella.

Erbyn i hanner y ddiadell fod yn heintiedig, yr unig ddewis ymarferol yw difa’r holl ddiadell ac ailstocio. Os bydd modd gwneud ffermwyr yn fwy ymwybodol o’r perygl o’u diadelloedd yn cael eu heintio a’r camau y gallant eu cymryd i leihau’r perygl, mae gobaith y bydd llai o ddefaid yn dioddef effeithiau heintiad MV.

Dangosodd arolwg helaeth mewn diadelloedd masnachol yn 1996 fod heintiad MV yn bresennol mewn 1.% o ddiadelloedd. Yn 2002 dangosodd arolwg o 150 o ddiadelloedd fod 3.3% o’r diadelloedd wedi’u heintio. Cymerwyd samplau pellach gan y prosiect hwn oherwydd cynnydd yn nifer y methiannau mewn diadelloedd achrededig – yn fwy na thebyg oherwydd cynnydd yn nifer yr heintiadau yn y ddiadell fasnachol. Mewn rhai gwledydd Ewropeaidd mae yna nifer fawr o achosion o MV ac mae gan un wlad yng ngogledd Ewrop bolisi o ddileu. Mae cynhyrchu cig defaid yn rhan hollbwysig o economi amaethyddol y DG a rhaid peidio â rhoi’r gorau i gynhyrchu yn effeithlon.

Y Cynllun Achredu MV

Mae Cynllun Iechyd Defaid a Geifr Dethol Coleg Amaethyddol yr Alban (PSGHS) yn rhedeg cynllun achredu sydd ag oddeutu 2,500 o aelodau sy’n cynrychioli diadelloedd bridio pedigri.  Mae rhai o’r diadelloedd hyn yn cynnwys defaid heb eu hachredu yn ogystal â defaid wedi’u hachredu. Rhaid i aelodau’r cynllun ddilyn rheolau bioddiogelwch caeth –  caiff y diadelloedd eu harchwilio – er mwyn atal cysylltiad rhwng anifeiliaid achrededig a rhai sydd heb eu hachredu.

Mae dadansoddiad o’r methiannau yn dangos fod 2.5 gwaith yn fwy o debygolrwydd o fethiant os yw defaid achrededig a rhai heb eu hachredu yn cael eu cadw ar yr un daliad mewn cymhariaeth a daliad sydd ag anifeiliaid achrededig yn unig.

Amlinelliad o’r Prosiect

Er mwyn darganfod y lefelau cyfredol o MV yng ngwledydd Prydain, casglwyd samplau fel rhan o arolwg brwselosis Defra ar gyfer yr arolwg MV. Roedd dros 12,000 o samplau ar gael i’w profi.

Er mwyn lleihau cost yr arolwg hwn, profwyd y samplau gwaed mewn carfanau o bedwar.  Pan oedd y profion mewn unrhyw garfan yn bositif, cafodd y samplau eu profi’r eilwaith.

Mae canlyniadau’r arolwg i’w gweld yma.