Gwella perfformiad diadelloedd mynydd a mamol Cymru drwy welliant genetig
Nod y gwaith hwn yw cefnogi bridwyr i wella’u cynhyrchiant, effeithlonrwydd a’u perfformiad amgylcheddol, gan hefyd eu galluogi i wneud penderfyniadau bridio gwybodus, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae HCC yn falch o gyflwyno Cam 2 o brosiect Geneteg Defaid Cymru (WSG) ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r cam hwn yn cefnogi’r defnydd o welliannau genetig o fewn diadelloedd defaid yng Nghymru. Bydd yn cynnig cymorth i’r ffermwyr sydd eisoes yn rhan o’r gwaith, yn ogystal ag annog diadelloedd newydd i ymuno.
Datblygwyd set ddata unigryw fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd (a reolwyd yn flaenorol gan HCC) a Cham 1 o’r WSG (a reolwyd yn flaenorol gan Cyswllt Ffermio), a bydd y data yma’n cael ei ddatblygu ymhellach yn ystod Cam 2.
Bydd dangosyddion perfformiad allweddol cadarn, cynlluniau gweithredu wedi’u teilwra ar lefel fferm, a phortffolio o brosiectau ymchwil a gynlluniwyd i ysgogi arloesedd ar draws y sector, hefyd yn cael eu datblygu.
Bydd y data genetig newydd a gesglir yn cryfhau meincnodi’r diwydiant ac yn cefnogi cynllunio busnes tymor hir, gan gryfhau’r cyflenwad, y cyflwyniad a gallu bridwyr i farchnata eu diadelloedd.
Floctest

Bydd y prosiect yn asesu effeithiolrwydd a dylanwad geneteg cofnodion EBV hyrddod â chofnodion perfformiad o fewn y 25-50% uchaf, mewn cymhariaeth â hyrddod stoc cyfredol.
Mae’r prosiect yn brawf diduedd rhwng eich hyrddod stoc cyfredol a hyrddod â chofnodion perfformiad sy’n cael eu dewis gennych. Er mwyn gwneud hyn, caiff eich diadell gyfan (hyd at uchafswm o 400 o famogiaid) brawf DNA, gan gynnwys yr holl hyrddod cyfredol a ddewisir gennych i’w cadw yn eich diadell. Bydd hyn yn osgoi’r angen am baru ag un hwrdd, yn ogystal ag osgoi unrhyw darfu ar eich arferion presennol a allai ddigwydd trwy orfod rhannu mamogiaid yn grwpiau ar wahân (paru ag un hwrdd).
Caiff yr holl ŵyn sy’n cael eu geni fel canlyniad i’r prosiect hwn brofion DNA a fydd yn golygu y gallwn gael manylion eu tras a chymharu perfformiad epil hyrddod â chofnodion perfformiad ag epil hyrddod stoc.
Bydd y prawf yn pennu effeithiolrwydd bridio’r ddwy set o hyrddod (h.y. nifer y mamogiaid a barwyd/nifer yr ŵyn a gynhyrchwyd). Gallwch asesu a yw un set wedi perfformio’n well na’r llall o ran cyfraddau sganio/ŵyna.
Cofnodir pwysau byw ŵyn hefyd ar wahanol adegau er mwyn asesu cymhariaeth cyfraddau twf.
Bydd nodweddion carcas yn cael eu cofnodi (pwysau byw cyn lladd, dyddiad lladd, gradd braster, cydffurfiad a phwysau marw). Bydd yr holl stoc a gedwir ar gyfer bridio neu a werthir yn stôr yn cael sgan uwchsonig i fesur braster cefn a nodir eu pwysau byw.
Bydd y cynllun peilot hwn yn rhoi gwybodaeth a data eithriadol i chi am eich diadell ddefaid.
Bydd y prosiect yn gymorth i’ch helpu i gasglu a dehongli data a chreu Cynllun Gweithredu Bridio sy’n bwrpasol i chi a’ch busnes. Mae cynllun gweithredu yn ddefnyddiol i nodi’r amcanion bridio, Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) a gwneud penderfyniadau gwybodus wrth brynu hyrddod â chofnodion perfformiad. Bydd hyn yn llywio’ch busnes ac yn gymorth i wneud penderfyniadau economaidd ynghylch prynu hyrddod o ran defnyddio EBVau a gwella’r ddiadell.
Mae manylion llawn ar gael yn y dogfen FAQ isod.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gwblhau’r ffurflen gais: FlocTest
Neu, e-bostiwch fanylion eich fferm a’ch diddordeb at genetics@hybucig.cymru ac yna bydd HCC yn cysylltu â chi i gael rhagor o fanylion am eich diadell.
Bydd pob ffermwr sy’n mynegi diddordeb yn y prosiect peilot yn derbyn gohebiaeth gan HCC gyda chanlyniad eu cais; rydym yn rhagweld y bydd hyn erbyn diwedd mis Hydref 2026.
Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer mynegiant diddordeb?
Dydd Llun 12 Hydref 2026.



