Skip to content

Recriwtio Gweithgor


Hybu Cig Cymru am benodi aelodau i Weithgor Arloesi ac Ymchwil Cynaliadwy newydd

Cefndir

Hybu Cig Cymru (HCC) yw corff ardoll cig coch Cymru ac mae’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo’r sector cig coch yng Nghymru a brandiau cig coch Cymru, sef Cig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI a Phorc o Gymru.

 Nod y gweithgor newydd hwn yw rhoi arweiniad i HCC ar gyfer meysydd arloesi ac ymchwil a datblygu sy'n ymwneud â chynaliadwyedd cyffredinol cynhyrchu cig coch yng Nghymru, gan gwmpasu pob agwedd ar gynhyrchu cig coch cynaliadwy. 

Bydd y Gweithgor hefyd yn adolygu cyfnewid gwybodaeth ar gyfer y sector cig coch er mwyn cefnogi’r gwaith o drosglwyddo'n effeithiol yr arloesi, technolegau a gwybodaeth sy'n deillio o ymchwil i’r diwydiant ac i sicrhau bod hyn yn diwallu anghenion strategol y sector cig coch yng Nghymru.

 

Y Gweithgor

Bydd dyletswyddau’r Gweithgor fel a ganlyn:

  • cynnal agwedd gyfannol at gynaliadwyedd sy'n cwmpasu pob agwedd ar gynhyrchu cig coch yng Nghymru gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, eneteg, iechyd a lles, rheoli tir, porthiant, rheoli tir glas, defnyddio adnoddau naturiol, a rheoli da byw; 
  • alinio trafodaeth a gweithgaredd y Gweithgor â ffocws HCC ar yr holl effaith amgylcheddol gan gynnwys allyriadau carbon, bioamrywiaeth, ansawdd aer, ansawdd dŵr a iechyd pridd; 
  • rhannu gwybodaeth newydd am ddatblygiadau, gweithgareddau, ac ymchwil a datblygu sy'n ymwneud â chynhyrchu cig coch cynaliadwy yng Nghymru, y DG ac yn fyd-eang; 
  • edrych tua'r dyfodol yn effeithiol o ran cynaliadwyedd, gan amlygu cyfleoedd a heriau i'r sector; 
  • cynghori HCC ar y posibilrwydd o gydweithio strategol addas, gan gynnwys cyfleoedd aml-bartneriaeth; 
  • trafod ac adolygu strategaeth i hwyluso cynhyrchu technolegau, dyfeisiau a gwybodaeth newydd o fewn y sector cig coch yng Nghymru; 
  • ystyried pynciau eraill o'r fath, fel y'u diffinnir gan HCC. 

Bydd y Gweithgor yn cyfarfod hyd at deirgwaith y flwyddyn; cynhelir o leiaf un o'r cyfarfodydd hyn wyneb yn wyneb a bydd y lleill yn cael eu cynnal trwy dele/fideo-gynadledda fel y bo'n briodol. Caiff y cyfarfodydd eu cadeirio gan aelod penodedig o Fwrdd HCC.

Bydd y penodiadau am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, gyda chyfle ar gyfer estyniad. 

Bydd mwy o fanylion ar gael o ran y Gweithgor yn 2024.