Gwneud cwyn
Mae Hybu Cig Cymru yn anelu at ddarparu gwasanaeth rhagorol a chyson i’n holl randdeiliaid. Os nad ydych yn fodlon ag unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddatrys y mater cyn gynted â phosibl.
Sut i gwyno
Gallwch roddi eich manylion ac esbonio’ch cŵyn isod. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl, gan y bydd hyn yn ein helpu i ddeall ac ymchwilio i’ch cŵyn.
Gallwch hefyd ein ffonio ar 01970 625050 neu e-bostio info@hybucig.cymru.
Os oes gennych gŵyn am sut rydym yn casglu, defnyddio, rhannu neu ddiogelu eich data personol (cŵyn am ddiogelu data), gallwch hefyd anfon e-bost at dataprotectionofficer@hubycig.cymru.
Caiff eich cŵyn ei chofnodi a’i thrin gan y person mwyaf priodol. Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn 3 diwrnod gwaith.
Ym mhob achos, rhoddir ystyriaeth lawn a theg i gŵyn.
