Mae HCC yn gwahodd bridwyr defaid Dorset i ymuno â Geneteg Defaid Cymru (GDC) a manteisio ar gymorth ymarferol, technegol ac ariannol i helpu i wneud y gorau o welliannau genetig hirdymor.
Mae GDC yn brosiect cyffrous sydd â’r nod o ddatblygu gwelliant genetig ar draws diadelloedd mamol a mynydd Cymru.
Manteision i ffermwyr:
- Cymorth ariannol tuag at brofion genetig, gwerthuso perfformiad a sganio braster cefn
- Canllawiau ymarferol a chyngor parhaus ar gofnodi perfformiad
- Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd y ddiadell
- Data dibynadwy i gefnogi penderfyniadau bridio hyderus sy’n seiliedig ar dystiolaeth
P’un a ydych yn edrych i wella perfformiad, cynyddu proffidioldeb neu ddiogelu dyfodol eich diadell, gall y prosiect hwn eich helpu i gyflawni hynny.
Mae GDC yn agored i BOB brîd mynydd a mamol sy’n cofnodi perfformiad, sydd bellach yn cynnwys defaid Dorset hefyd.
Caiff y rhaglen ei rheoli gan HCC ar ran Llywodraeth Cymru, ac fe’i chynlluniwyd i helpu bridwyr i wella cynhyrchiant, effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol, gan gefnogi penderfyniadau bridio gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol cadarn, cynlluniau gweithredu wedi’u teilwra ar lefel fferm, ac amrywiaeth o fentrau ymchwil gyda’r nod o ysgogi arloesedd o fewn y sector.

