Skip to content

Cofnodi Eich Defaid

Mae ddau brif weithgaredd, sef casglu data a dadansoddi data.

1. Casglu Data

Mae casglu'r data'n golygu bod y bridiwr yn cofnodi a chyflwyno gwybodaeth am ei ddiadell, gan gynnwys:-

  • Cyn paru. Cyflwynir manylion am hyrddod a mamogiaid bridio mewn diadelloedd newydd. Anfonir y pwysau ar gyfer hesbinod a fagwyd ar y fferm.
  • Wyna. Anfonir rhestrau a dyddiaduron wyna at fridwyr. Ar gyfer pob oen, bydd y bridiwr yn cofnodi'r manylion adnabod, ynghyd â manylion rhyw, dyddiad geni, manylion adnabod y fam, oed y fam, manylion adnabod y tad a'r math o dorllwyth (oen sengl, gefeilliaid, etc). Hefyd, cofnodir gweithgareddau rheoli megis trawsblannu embryonau, maethu a magu artiffisial. Unwaith y bo'r rhan fwyaf o'r wyna wedi'i gwblhau, anfonir y cofnodion hyn er mwyn eu rhoi ar gyfrifiadur.
  • 8 wythnos ar ôl wyna. Rhoddir taflenni pwyso i fridwyr, ynghyd â dyddiad dewisol ar gyfer pwyso.
  • 21 wythnos ar ôl wyna. Anfonir rhestr o'r holl wyn o gofnodwyd at y sawl sy'n sganio, a bydd ef/hi wedyn yn gwneud trefniadau â'r bridiwr i bwyso a sganio'r wyn trwy ddefnyddio uwchsain. 

Ym mhob cam, bydd y gwerthuso'n cael ei archwilio er mwyn sicrhau cywirdeb y gronfa ddata, a gofalu bod y dadansoddiadau o'r ansawdd gorau.

Dangosir y mesuriadau perfformiad safonol yn Nhabl 1. Mae ymchwil ddiweddar wedi cynhyrchu amrediad o nodweddion newydd, sy'n cael eu defnyddio yn bennaf gan fridwyr hyrddod terfynol. Nodir y rhain yn Nhabl 2.

2. Dadansoddi Data

Mae dull ystadegol o'r enw BLUP, sef talfyriad o'r enw Saesneg ‘Best Linear Unbiased Predictor', er mwyn amcangyfrif potensial bridio pob anifail yn y ddiadell.

Mae pob anifail yn cael ei ddadansoddi ar sail ei berfformiad ei hun, yn ogystal â pherfformiad ei berthnasau a'i hynafiaid. Mae'r dadansoddiad yn ystyried y berthynas rhwng yr anifeiliaid, unrhyw gysylltiadau hysbys rhwng nodweddion a gofnodwyd a'r graddau y mae pob nodwedd yn cael ei hetifeddu gan y genhedlaeth nesaf
(etifeddeg). Cyfeirir at ganlyniadau'r dadansoddiad fel Gwerthoedd Bridio Tybiedig.