Skip to content

Cyflawni’r buddion hynny

Sut mae adnabod electronig yn eich galluogi i gyflawni’r buddion hyn.

  • Mae’n arbed gorfod ysgrifennu rhifau adnabod, dyddiadau a gweithgareddau unigol. Mae hyn yn golygu bod modd casglu gwybodaeth yn rhwydd am nifer fawr o anifeiliaid, a hynny’n gyflym ac yn fwy cywir. Mae’n lleihau camgymeriadau a’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â chofnodion symudiadau anifeiliaid/llyfrau meddyginiaeth ac ati.

Dwy ddynes yn cymryd recordiad electronig o ddafad
Dwy ddynes yn cymryd recordiad electronig o ddafad
  • Nid oes angen cyffwrdd â’r anifeiliaid i’w hadnabod yn gywir. Mae hyn yn golygu y gellir casglu rhifau adnabod heb fod angen darllen y tagiau clustiau, gan wneud y broses yn fwy cyflym a diogel i’r rhai sy’n gysylltiedig. Gellir lleihau risgiau iechyd a diogelwch ymhellach fyth trwy ddefnyddio darllenydd data sydd â pheiriant pwyso / cytio awtomatig.
  • Gellir llwytho’r wybodaeth adnabod a rheoli yn uniongyrchol i’ch cyfrifiadur, gan leihau’r amser a dreulir yn trawsgrifio gwybodaeth i’ch llyfr praidd, cyfrifiadur neu adnodd arall.
  • Mae meddalwedd rheoli fferm yn caniatáu i chi ddadansoddi’r data rydych wedi’i gasglu, gan roi gwybodaeth reoli i chi ar gyfer seilio penderfyniadau yn ymwneud â pherfformiad y praidd.
  • Mae EID yn rhoi’r holl wybodaeth i chi ar flaenau’ch bysedd – bydd dal darllenydd data yn agos i’r tag EID yn darparu’r holl wybodaeth sydd wedi’i storio ynglŷn â’r anifail penodol hwnnw. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol o ran cyfnodau diddyfnu o gyffuriau wrth i ŵyn gyrraedd rhan olaf y broses pesgi. Mewn rhai achosion, gellir cysylltu gwybodaeth â’ch ffôn clyfar hefyd.
  • Mae EID yn lleihau costau llafur yn sylweddol oherwydd gellir rheoli mwy o anifeiliaid yn effeithiol gan lai o bobl. Mae’r cyfuniad o offer awtomataidd gydag EID yn cynnig y gallu i adnabod anifeiliaid yn awtomatig wrth iddynt fynd trwy system drin, fel y gellir pwyso a didoli mwy o anifeiliaid fesul awr. Gall hyn fod yn fuddiol iawn i systemau ffermio llai dwys.
Defaid mewn daliad yn cael ei brofi gyda recordydd trydan
Defaid mewn daliad yn cael ei brofi gyda recordydd trydan
  • Mae EID yn cynyddu’r cyfle i yrru mamogiaid ac ŵyn trwy gratiau pwyso electronig yn amlach nag a fyddai’n bosibl â llaw, gan ganiatáu i chi gadw llygad ar gyflwr mamogiaid ar ôl diddyfnu a faint o bwysau y mae ŵyn yn eu magu. Os nad yw mamogiaid yn adfer i gyflwr da, mae’n bosibl y bydd ganddynt broblem tymor hir, a gall ŵyn nad ydynt yn cyrraedd pwysau targed gael eu harchwilio am broblemau iechyd, fel llyngyr neu glwy’r traed.
  • Mae EID yn caniatáu i ffermwyr defaid sy’n cadw preiddiau mawr a symudir yn rheolaidd rhwng daliadau gofnodi symudiadau’n gyflym ac yn rhwydd a chadw llygad ar ble mae defaid unigol wedi bod.
  • Mae’r llif gwybodaeth gwell yn eich galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwrthrychol ac amserol, gan felly wella perfformiad eich praidd a’ch busnes.

Mae EID yn cynnig llawer o gyfleoedd. Yr hyn sy’n allweddol er mwyn ei ddefnyddio’n effeithiol yw peidio â’i wneud yn rhy gymhleth a defnyddio’r dechnoleg i’r lefel lle y gallwch weld budd ac elw, y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen at ddibenion adnabod syml.