Skip to content

Adnabod Electronig (EID)

Mae adnabod electronig (EID) yn cynnig llawer o fuddion i unrhyw un sy’n ymwneud â thrin defaid and cattle, 

Mae EID yn defnyddio microsglodyn, neu drawsatebwr electronig, sydd wedi’i osod mewn tag, bolws neu fewnblaniad i adnabod anifail fferm.

Mae adnabod EID yn gofyn am fuddsoddiad cychwynnol mewn technoleg ar y fferm. Mewn sefyllfaoedd sylfaenol iawn, mae hyn yn golygu prynu offer a fydd yn darllen y tagiau EID, a bod â mynediad at gyfrifiadur sydd â meddalwedd rheoli fferm syml wedi’i gosod arno. Yna, bydd y feddalwedd hon yn rheoli’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu.

Mae EID yn cynnig llawer o gyfleoedd. Yr hyn sy’n allweddol er mwyn ei ddefnyddio’n effeithiol yw peidio â’i wneud yn rhy gymhleth a defnyddio’r dechnoleg i’r lefel lle y gallwch weld budd ac elw, y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen at ddibenion adnabod syml.

Ariannwyd y prosiect Adnabod EID gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 ac fe'i reolwyd gan HCC. Ei nod oedd deall mwy am y rhwystrau a pham nad yw ffermwyr yn manteisio ar gofnodi electronig .

Nod y prosiect peilot hwn oedd gweithio gyda hyd at 1,500 o fusnesau ffermio defaid cymwys i ddeall yn well eu pryderon ynghylch defnyddio technolegau EID a’u galluogi i gael hyd i wybodaeth, hyfforddiant a chymorth yn ymwneud â’r manteision ymarferol o gofnodi electronig. Defnyddiodd y prosiect gyfuniad o hyfforddiant ar-lein a darparodd gymhelliant ariannol o £500 i gymryd rhan ac i annog y defnydd o dechnolegau a fyddai yn y pen draw yn arwain at well effeithlonrwydd gweithredol a gwell perfformiad.

Darparodd y ffermwyr defaid a fu’n cymryd rhan ystod o wybodaeth a data a gafwyd ar-lein trwy’r broses gofrestru ar-lein, ar ôl cwblhau'r hyfforddiant ar y we a thrwy arolygon dilynol. Roedd yr wybodaeth a gasglwyd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar agweddau a phrofiadau cyfranogwyr blaenorol ynghylch cofnodi (yn electronig neu â llaw), ar eu profiadau wrth ddefnyddio offer a meddalwedd EID hyd yma fel rhan o'r prosiect hwn a’r hyn y bydden nhw'n gobeithio ei gyflawni trwy barhau i ddefnyddio EID ar eu diadelloedd. Cyflwynir eu hadborth yn yr adroddiad prosiect hwn.

Cliciwch yma i ddarllen y crynodeb o ganfyddiadau'r prosiect. 

Mwy o wybodaeth am EID: www.ewemanage-IT.org.uk