Skip to content

Defaid Hirwlanog

GWELLA DEFAID HIRWLANOG

NOD

Prif nod yr astudiaeth hon, a ddechreuodd yn 1997, oedd datblygu mynegrifau dewis i wella defaid hirwlanog a’u hepil hanner-brid mewn perthynas â pherfformiad atgenhedlu, rhinwedd famol, twf ac ansawdd carcas.

PAM MAE’N BWYSIG?

Mae gan fridiau defaid hirwlanog fel Defaid Hirwlanog Caerlyr a Defaid Goror Caerlyr ddylanwad pwysig ar boblogaeth y mamogiaid croesfrid yn niadell y DG trwy fod yn dadau i ddefaid miwl a hanner-bridiau eraill.

SUT OEDD Y PROSIECT YN GWEITHIO?

Yn Rhan 1 roedd y prosiect yn cyflenwi 15 o hyrddod croesi’r flwyddyn, oedd â rhinweddau genetig hysbys o ran ansawdd carcas, i baru â 1,500 o famogiaid mynydd.  Cynhyrchwyd wyn dros dri thymor a chawsant eu hasesu ar gyfer nodweddion twf a charcas. Magwyd a gwerthuswyd 5,000 o wyn.  Hefyd, cafodd bron i 800 o wyn eu dyrannu. 

Mae’r canlyniadau’n dangos fod brid y famog fynydd yn cael effaith bwysig ar berfformiad yr oen. Mae mamogiaid penddu’n cynhyrchu wyn trymach sy’n tyfu’n arafach â gwell cydffurfiad a mwy o garcasau â chymhareb cig coch i fraster na mamogiaid penfrith.  Cynhyrchodd yr hyrddod Wyneblas Caerlyr â mynegrif uchel garcasau heb fawr o fraster, heb amharu ar y maint.  Roedd wyn benyw Miwl o famogiaid penddu yn drymach, gyda gwell trwch cyhyrau a braster.  Cynhyrchodd yr hyrddod Wyneblas Caerlyr â mynegrif uchel wyn benyw â mwy o drwch cyhyrau, llai o drwch braster a “gwell” patrwm lliw ar yr wyneb.

Mae’r prosiect wedi dangos fod yna gyfleoedd da i wella defaid Miwl trwy ddewis hyrddod hirwlanog. Bydd y prif bwyslais ar nodweddion carcas, ond gwneir cynnydd hefyd ynglyn â nodweddion mamol, gan gynnwys goroesedd yr wyn. Dangosodd y gwaith ymchwil na fydd hyn yn effeithio’n andwyol ar gydffurfiad ac ymwrthedd i barasitiaid mewnol.

Yn ystod Rhan 2 cafodd nodweddion mamol ac atgenhedlol eu hasesu ymhlith y mamogiaid Miwl a gynhyrchwyd. Casglwyd ynghyd yr wybodaeth o hyn a Cham 1 er mwyn datblygu mynegrifau newydd ar gyfer y bridiau hirwlanog i wella nodweddion carcas yr wyn a nodweddion mamol y mamogiaid. Ar hyn o bryd mae’r ymgynghori â’r bridwyr yn parhau er mwyn darganfod y ffordd orau o weithredu’r mynegrifau.

Yn Nghymal 3 o'r prosiect, aseswyd hirhoedledd y mamogiaid a gynhyrchwyd yng Nghymal 1.  Yna defnyddiwyd yr wybodaeth i fireinio'r mynegrif dewis fwyfwy.

PWY WNAETH Y GWAITH?

Gwnaed y gwaith ymchwil gan y Sefydliad Gwyddorau Gwledig - Aberystwyth, Coleg Amaethyddol yr Alban ac ADAS

Noddir y prosiect ar y cyd gan HCC, EBLEX a QMS.

Longwool Final Report - [269.48 Kb PDF]

Longwool Final Report_additional tables - [114.75 Kb PDF]