Skip to content

QTL

Effaith TM-QTL a QTLau eraill ar gynnyrch cig coch ac ansawdd cig mewn defaid a’i werthuso trwy ddefnyddio VISA
(Mai 2006 – Gorffennaf 2010)

NODAU

Mae ymchwil blaenorol wedi darganfod grwp o enynnau sy’n gyfrifol am drwch cyhyrau mewn defaid Texel.  Gellir priodoli cyfran helaeth o’r amrywiad rhwng anifeiliaid mewn nodwedd i nifer fach o enynnau mewn lleoliad penodol. Yr enw ar y lleoliadau hyn yw Locysau Nodweddion Meintiol (QTL). Yn yr achos hwn gelwir y QTL yn ‘QTL cyhyredd Texel’ (TM-QTL) Mae disgwyl y bydd effeithiau ffenoteipol y QTL hwn yn effeithio ar yr holl gyhyr sgerbydol ac yn lleihau braster.

Prif nod y prosiect hwn yw gwerthuso effeithiau uniongyrchol (cynnyrch cig coch) ac anuniongyrchol (twf, carcas, cydffurfiad, yn enwedig ansawdd bwyta’r cig, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid) y TM-QTL, mewn defaid purlinach a chroesfrid.

Rhan arall o’r prosiect hwn yw profi a dilysu system VISA (Dadansoddi Systemau Delweddau Fideo) er mwyn gwerthuso carcasau cig oen yn wrthrychol. Fe allai hyn alluogi rhagfynegi nodweddion ansawdd bwyta.

PAM MAE’N BWYSIG?

Er mwyn i ddiwydiant defaid y DG fod yn fwy hyfyw yn economaidd, rhaid iddo ddarparu carcasau sy’n diwallu gofynion y farchnad yn well. Yn ogystal â strategaethau bridio i wella ansawdd y carcas mae yna ymchwil byd-eang ar hyn o bryd ynglyn â defnyddio technolegau genetig moleciwlaidd. Cafodd adnoddau sylweddol eu neilltuo i ddarganfod locysau nodweddion meintiol (QTL) y gellir manteisio arnynt ac yn benodol, i ddarganfod genynnau sy’n dylanwadu ar dwf cyhyrau a chyfansoddiad y corff.

SUT FYDD Y PROSIECT YN GWEITHIO?

Bydd effeithiau QTL yn cael eu hastudio mewn anifeiliaid o linach Texel bur yn ogystal ag mewn wyn croesfrid. Bydd yr wyn croesfrid hyn yn cael eu cynhyrchu trwy baru mamogiaid Miwl, Mynydd Cymreig a Texel-Inverdale purlinach â hyrddod Texel Seland Newydd (yn cario MM-QTL), hyrddod Texel (yn cario MM-QTL) a bridiau eraill o hyrddod terfynol (e.e. Suffolk a Charollais). 

Bydd darganfyddiadau’r system VISA yn cael eu cymharu â mesuriadau CT a chanlyniadau dyraniadau carcasau er mwyn rhagfynegi cysylltiadau rhwng y darganfyddiadau VISA a nodweddion ansawdd bwyta.

PWY FYDD YN GWNEUD Y GWAITH?

Mae hwn yn brosiect cyswllt integredig gan DEFRA wedi’i noddi’n rhannol gan HCC, EBLEX, QMS ac LMC Gogledd Iwerddon.