Skip to content

Amgylchedd

Uchelgais HCC yw i wneud ffermio defaid a gwartheg eidion yng Nghymru yn enghraifft fyd-eang o sut i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy ac effeithlon.

Credwn fod y ‘Ffordd Gymreig’ o amaethu yn cynnig llawer iawn. Mae nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud yn dda yn barod, ac rydym wedi ymrwymo i wella ymhellach.

Ym mis Hydref 2021 fe wnaethon ni lansio canllaw ymarferol i ffermwyr sy’n amlinellu ffyrdd o leihau allyriadau a chynyddu atafaelu carbon.

Mae’r gwaith yma wedi ei seilio ar ymchwil annibynnol a gwersi o brosiectau diwydiant, ac mae mwy o wybodaeth yn y dogfennau isod.

Gall ffermwyr Cymru ymfalchïo ein bod yn cynhyrchu protein o safon uchel ar dir ymylol, sy’n anaddas ar gyfer tyfu cnydau. Gwnawn hynny i raddau helaeth o fewn systemau nad ydynt yn rhai dwys, gan ddefnyddio glaswellt a dŵr glaw i fagu anifeiliaid, gan osgoi difa coedwigoedd a defnyddio adnoddau dŵr mewn modd anghynaliadwy mewn mannau eraill yn y byd.

Ond fe allem wneud mwy i leihau allyrriadau nwyon tŷ-gwydr a lleihau gwastraff, mewn ffyrdd fedrai hyrwyddo cynaliadwyedd economaidd a diwylliannol y cymunedau hyfyw Cymreig sy’n cael eu cynnal gan gynhyrchu bwyd ac amaethu anifeiliaid. Hefyd, mae amaethu da byw yn unigryw; tra’n ceisio lleihau ei ddylanwad ar yr amgylchedd, gall ar yr un pryd gyfrannu’n adeiladol ym meysydd adnewyddu priddoedd, ehangu bio-amrywiaeth ac atafaelu carbon. Ein bwriad yw sicrhau fod cwsmeriaid, wrth iddynt ddewis Cig Oen neu Gig Eidion Cymru, yn gallu bod yn hyderus fod y cig yn cael ei gynhyrchu i’r safonau uchaf o ran cynaliadwyedd, ac y byddwn yn gwneud ein rhan wrth geisio wynebu sialens newid hinsawdd a diogelu’r cyflenwad o fwyd yn fyd-eang. Cliciwch yma i lawrlwytho adnoddau cyfryngau cymdeithasol.


Lawrlwythwch Adnoddau

Y Ffordd Gymreig: clawr
Ffeithiau Cyflym: clawr