Skip to content

Rheoli Glaswellt a Phorthiant

Mae'r hinsawdd yng Nghymru'n ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu glaswellt. Hon yw'r ffynhonnell fwyd rataf ar gyfer da byw cnoi cil a gellir sicrhau'r cyflenwad gorau posibl gyda rheolaeth ofalus. Bydd sicrhau'r effeithlonrwydd gorau posibl o laswellt yn gostwng costau cynhyrchu a hefyd yn lleihau'r allyriadau NTG posibl.

Un ffactor bwysig ar gyfer defnydd effeithlon o laswellt yw sicrhau'r defnydd gorau o'r holl ardaloedd pori a phorthiant. Dylid defnyddio ffyn glaswellt yn rheolaidd i fesur hyd y glaswelltyn; bydd hyn o gymorth i wybod pryd ddylid symud y da byw o un cae i gae arall er mwyn sicrhau'r cynhyrchiant gorau.

Ceir arferion rheoli glaswellt a phorthiant eraill amrywiol a all gael effaith ar allyriadau NTG. Ymhlith y rhain mae'r canlynol:

  • Y defnydd o Rygwellt Llawn Siwgr mewn glaswellt - gweler y Rhestri o Laswelltau a Meillion a Argymhellir am fanylion.
  • Y defnydd o feillion i sicrhau gwell cynhyrchiant gyda'r fantais ychwanegol o leihau'r gofynion am wrtaith.
  • Gall defnyddio porthiant arall wella cynhyrchiant hefyd e.e. ysgellog, bresych ac indrawn.

Cynhyrchwyd cyhoeddiadau gan HCC fydd o gymorth gyda rheoli glaswellt a phorthiant ar eich fferm. Gallwch eu gweld yma.


Lawrlwythwch Adnoddau

Rheoli Glaswellt: clawr
Pori Cymysg – Y Manteision: clawr