Skip to content

Asidosis y Rwmen

Mae data NADIS yn dangos fod nifer yr achosion o asidosis a welwyd gan filfeddygon NADIS wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod gaeaf y gaeaf hwn (2002-2003). Mae nifer yr achosion yn debygol o barhau'n uchel hyd nes i'r gwartheg gael eu troi allan o leiaf, a gall y bydd yn cynyddu adeg lloia yn y gwanwyn, yn enwedig yn y buchesi â'r cynhyrchedd gorau.

Yr un fath â gyda'r rhan fwyaf o glefydau, mae'n bwysig cofio hyn: am bob buwch sy'n dangos arwyddion clinigol, bydd llawer mwy a fydd yn dioddef yn is-glinigol

Beth yw asidosis?

Dywedir bod asidosis yn digwydd pan fo pH y rwmen yn gostwng i lai na 5.5 (6.5 – 7.0 yw'r arferol). Mewn sawl achos gall y pH ddisgyn yn is hyd yn oed. Mae gostyngiad pH yn cael dwy effaith. Yn gyntaf, mae'r rwmen yn rhoi'r gorau i symud ac yn mynd yn llipa. Mae hyn yn arwain at ddiffyg archwaeth a llai o gynhyrchedd. Yn ail, mae'r newid mewn asidedd yn newid fflora'r rwmen ac mae bacteria sy'n cynhyrchu asid yn cymryd drosodd. Mae'r rhain yn cynhyrchu mwy o asid, gan waethygu'r asidosis. Yna mae'r asid cynyddol yn cael ei amsugno drwy bilen y rwmen, gan achosi asidosis metabolig, a all, mewn achosion difrifol, arwain at sioc a marwolaeth.

Achos pennaf asidosis yw porthiant sy'n cynnwys lefel uchel o garbohydrad y gellir ei dreulio'n gyflym, megis barlys a grawnfwydydd eraill. Mae asidosis acíwt, sydd yn aml yn arwain at farwolaeth, i'w weld yn gyffredin mewn anifeiliaid 'cig eidion barlys' pan fo'r gwartheg wedi bwyta gormod. Mewn gwartheg godro, mae math ysgafnach, asidosis is-acíwt, i'w weld pan fo'r porthiant yn cynnwys gormod o ddwysfwydydd mewn cymhariaeth â phorfwyd. Y math hwn o'r clefyd sydd ar gynnydd, yn ôl milfeddygon NADIS (Y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid).

ARWYDDION CLINIGOL

  • Asidosis is-acíwt
  • Llai o laeth: Gostyngiad cymedrol i ddechrau, ond cwymp sydyn yn y pen draw
  • Llai o lawer o fraster yn y llaeth
  • Cyflwr y corff yn gwaethygu a cholli pwysau
  • Llai o archwaeth (ar gyfer bwydydd nad ydynt yn borfwydydd i ddechrau)
  • Y blew heb sglein
  • Llai o gnoi cil
  • Y dolur rhydd - ysgafn i gymedrol
  • Y tymheredd fel arfer yn normal
  • Gall y bydd curiadau'r galon a'r anadlu'n cyflymu, yn enwedig os yw'r asidosis yn ddifrifol.

Os yw asidosis yn digwydd mewn un fuwch, mae hynny fel arfer yn arwydd fod llawer o fuchod eraill yn y fuches yn dioddef o asidosis sy'n lleihau eu cynhyrchedd yn sylweddol. Mae achos clinigol ond megis crib y rhewfryn, ac felly rhaid ceisio atebion ar gyfer y fuches gyfan yn hytrach nag ar gyfer yr anifail unigol yn unig.

Cafodd llawer o glefydau eu cysylltu ag asidosis. Ar gyfer rhai, megis crawniadau ar yr iau, mae'r dystiolaeth yn gryf iawn. Ar gyfer eraill, megis wlser y gwadn a chlefyd byw y carn, dydy'r cysylltiad ddim mor gryf.

Diagnosis

Anodd am fod yr arwyddion yn amhenodol
Rhaid diystyru cetosis (asidedd gwaed).

Mae llai o fraster yn y llaeth yn arwydd cryf o fwydo â gormod o startsh

Mae'r rhan fwyaf o ddiagnosisau yn seiliedig ar ddileu'r ffactorau eraill sy'n achosi diffyg archwaeth a llai o gynhyrchedd.

Triniaeth

Mae'r rhan fwyaf o driniaethau'n rhai ategol er mwyn caniatáu i'r rwmen ddychwelyd i normal

Nid oes fawr o werth mewn moddion i adfywio'r rwmen.

Gall bwydo byffer fel sodiwm deucarbonad fod o gymorth byrdymor, yn enwedig i anifeiliaid yn yr un grwp.

Atal

Mae pob buwch sy'n cael triniaeth megis crib y rhewfryn, ac felly mae atal yn hanfodol. Nod unrhyw gyfundrefn ataliol yw rhoi amser i'r fuwch addasu i newid a pheidio â disgwyl i'r rwmen allu addasu i beth bynnag sy'n cael ei daflu ato.

Mae yna ddau fath o asidosis is-acíwt. Mae'r math cyntaf yn digwydd mewn buchod sydd newydd loia (hyd at 20 niwrnod ar ôl lloia). Mae hyn yn digwydd oherwydd methiant i addasu'r rwmen i'r diet llaetha cyn lloia. Yn yr achos hwn, mae rheolaeth y buchod sych yn allweddol i atal asidosis. Yn benodol, mae bwydo diet trawsnewid a lleihau'r straen adeg lloia yn bwysig.

Mae'r ail fath o asidosis yn effeithio ar fuchod rhwng y cyfnod llaetha brig a'r cyfnod canolig. Bryd hynny, dylai'r rwmen fod wedi addasu i'r diet, ac felly mae asidosis yn y gwartheg hyn yn digwydd fel canlyniad i fwydo dietau sydd â lefelau isel o ffibr a lefelau uchel o startsh (neu sy'n caniatáu i'r anifail ddewis porthiant).

Ym mhob buches â phroblem asidosis, rhaid asesu'r porthiant yn llawn, a rhoi sylw i'r hyn y mae'r gwartheg yn ei gael a'r hyn y maent yn ei fwyta. Bydd pob sefyllfa'n wahanol ac yn ymofyn amrediad gwahanol o atebion.

Fodd bynnag, mae yna sawl ffactor sy'n debygol o fod yn bwysig yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd:

Cymhareb porfwyd:dwysfwyd. Ac eithrio pan fo gan fuchod gynhyrchedd uchel, bydd cymhareb o 60:40 yn lleihau'r risg o asidosis yn sylweddol

Gall bwydo dognau cymysg cyflawn ynghyd â phorfwyd a dwysfwydydd yn gymysg leihau asidosis yn sylweddol, os nad yw'r anifail yn dewis bwyta ond y gyfran o ddwysfwyd

Lle bwyta: Os nad oes digon o le, bydd maint y pryd cyfartalog yn cynyddu, ac felly'n cynyddu'r risg o asidosis (hyd yn oed gyda dogn cymysg cyflawn). (Gall hyn ddigwydd hefyd os caiff yr amser bwyta ei gyfyngu neu os yw'r amserau bwyta'n anghyson)

Richard Laven BVetMed PhD MRCVS
Hawlfraint © NADIS 2003