Skip to content

Pesgi Wyn yn y Gaeaf

Archwiliad i'r amrywiad mewn ansawdd cig oen o dair system pesgi yn y gaeaf

Nodau

Nod y prosiect hwn oedd darganfod a yw ansawdd cig oen yn amrywio yn ôl adeg y flwyddyn a'r porthiant a ddefnyddiwyd i besgi'r wyn.

Sut gwnaed y prosiect?

Rhannwyd 180 o wyn Texel x Miwl o un fferm ar gyfer tri phorthiant, a gwnaed yr astudiaeth yn ystod dau gyfnod pesgi i archwilio'r amrywiad yn ansawdd y cig yn ôl y diet a'r dyddiad lladd.  Pesgwyd yr wyn mewn grwpiau o 30 naill ai ym mis Tachwedd 2007 neu fis Mawrth 2008.  Cafodd yr wyn eu bwydo ar laswellt neu silwair glaswellt (gydag ychwanegiad cyfansawdd yn ôl yr angen), maip sofl neu fwydo'n rhydd â phorthiant cyfansawdd.  Anfonwyd 16 o wyn gwedder o bob triniaeth i Brifysgol Bryste er mwyn asesu ansawdd a blas eu cig a chawsant eu cymharu ag wyn o ddau grwp rheoli, sef cig oen Prydeinig o wyn wedi'i bwydo ar laswellt yn unig (o'r un fferm) a laddwyd ym mis Tachwedd a chig oen Seland Newydd a fewnforiwyd ym mis Mai. 

Pwy wnaeth y gwaith?

Gwnaed y gwaith gan ADAS a chafodd ei ariannu ar y cyd gan HCC, EBLEX Cyf, QMS a Defra.

Canlyniadau

Mae adroddiad llawn ar gael yma.