Skip to content

Diwalliant

DEFNYDDIO PROTEIN CIG I WELLA DIWALLIANT:
 EI RAN MEWN RHEOLI PWYSAU’R CORFF

(Medi 2003 – Mehefin 2006)

NOD 

Nod y prosiect hwn yw datblygu dealltwriaeth fanwl o’r berthynas rhwng ffynonellau protein cig a diwalliant (y teimlad o fod yn llawn ar ôl bwyta).  Mae ffynonellau gwahanol o brotein yn debygol o effeithio ar y ffordd y mae pobl yn rheoli eu cymeriant bwyd a sut maen nhw’n rheoli pwysau eu corff.

PAM MAE’N BWYSIG?

Mae gordewdra yng ngwledydd y Gorllewin ar gynnydd ac mae creu diet yn rhan bwysig o’r ffordd y gellid mynd i’r afael â’r broblem.

SUT FYDD Y PROSIECT YN GWEITHIO?

Dewisir gwirfoddolwyr a gofynnir iddyn nhw fwyta prydau a gafodd eu creu’n ofalus ac sy’n seiliedig ar wahanol ffynonellau o brotein fel rhan o arbrawf cytbwys. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cofnodi eu teimladau o ddiwalliant mewn ffordd systematig bob hyn a hyn ar amser a gytunwyd.

PWY FYDD YN GWNEUD Y GWAITH?

Mae’r ymchwil yn cael ei wneud gan Brifysgol Brookes Rhydychen.

Noddir y prosiect ar y cyd gan HCC, EBLEX a QMS.