Skip to content

Argymhelliad i gyflwyno mecanwaith fel bod cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru yn cydredeg â chwyddiant


Ar 26 Hydref 2022 lansiodd Hybu Cig Cymru (HCC) sgwrs a fydd yn para am wyth wythnos ynghylch argymhelliad i gyflwyno mecanwaith fel bod Cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru yn cyd-redeg â chwyddiant.  Y dyddiad cau ar gyfer unrhyw sylwadau yw 16 Rhagfyr 2022.

Rhesymeg

Mae yna nifer o ystyriaethau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol ac amgylcheddol yn wynebu'r diwydiant cig coch yng Nghymru, a bydd llawer ohonynt yn cael effaith sylweddol ar wytnwch, perfformiad a phroffidioldeb y sector yn y dyfodol.

  • Yn dilyn Brexit a phandemig Covid-19, mae'r sector wedi wynebu ansicrwydd sydd, ynghyd â chytundebau masnach newydd o ran datblygu y newidiadau a argymhellir mewn perthynas â thaliadau cymorth amaethyddol a phrinder gweithwyr parhaus, yn golygu bod y diwydiant yn wynebu heriau drwy'r amser.
  • Yn ogystal, mae'r sector cig coch yn wynebu heriau oherwydd chwyddiant cynyddol (mae costau ynni, tanwydd a bwyd i gyd yn cyfrannu at  y cynnydd cyflymaf ers 30 mlynedd mewn prisiau yn y DG) ac mae'r sefyllfa yn Wcráin yn amharu ar y llif masnachol yn fyd-eang. 
  • Mae'r argyfwng hinsawdd yn hollbwysig ac yn ymwneud â'r byd cyfan – ac mae hefyd yn risg i ddiogeledd bwyd yn y tymor canolig a hirdymor.

Ac ystyried maint a difrifoldeb yr heriau sy'n wynebu diwydiant cig coch Cymru, mae'n hanfodol iddo gael corff  cig coch â digon o gyllid i ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru gartref a thramor ac i gynnal y momentwm a gafwyd eisoes.

Mae HCC yn argymell diogelu'r diwydiant ar gyfer y dyfodol trwy gael y cyfraddau ardoll i gyd-redeg â chwyddiant. Byddai hynny'n gwneud yn siŵr fod incwm o'r ardoll yn cael ei gynnal mewn termau real a byddai'n golygu bod yr incwm yn y dyfodol yn parhau ar lefel na fyddai'n amharu ar y gallu i fuddsoddi. Nid yw HCC yn ceisio cael rhagor o arian ar gyfer gweithgareddau (byddai cyfraddau'r ardoll yn cynyddu yn unol â'r cynnydd mewn chwyddiant blynyddol yn unig).

Argymhelliad

Mae HCC yn argymell cyflwyno mecanwaith sy'n golygu bod cyfraddau blynyddol Ardoll Cig Coch Cymru  (“Ardoll”) yn cyd-redeg â chwyddiant blynyddol, er mwyn gwneud yn siŵr fod incwm o'r ardoll yn cael ei gynnal mewn termau real. Argymhellir bod cyfraddau'r ardoll bob blwyddyn ariannol yn adlewyrchu'r chwyddiant blynyddol yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol, yn unol âr hyn a fesurwyd gan y mynegrif defnyddwyr, gan gynnwys costau tai perchnogion preswyl (CPIH). Byddai hyn yn berthnasol i'r ardoll a gesglir yng Nghymru, ond nid i'r ardoll y mae HCC yn ei dderbyn fel rhan o'r ailddosbarthiad.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyfanswm chwyddiant (cyfansawdd), yn ôl mesuriad y CPIH, wedi bod yn 19.2% (Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r holl gynnydd hwn mewn chwyddiant wedi gostwng incwm HCC o'r ardoll, mewn termau cymharol, ac wedi golygu lleihad yng ngallu HCC i fuddsoddi. 

Bydd cynnydd yn yr incwm ardoll yn sicrhau fod gan ddiwydiant cig coch Cymru gorff cig coch â chyllid digonol i ymgymryd â datblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch gartref a thramor. Byddai'n caniatáu canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:

  • Gosod cig coch o Gymru fel cynnyrch premiwm
  • Datblygu masnach rhyngwladol – datblygu cyfleoedd i allforio cig coch Cymru, ymateb i gytundebau masnach rydd newydd a chael mynediad i'r farchnad
  • Ymateb i'r heriau ynghylch diogeledd bwyd a chynhyrchu bwyd trwy ddulliau cynaliadwy tra'n cynnal yr economi, yr amgylchedd naturiol a chymdeithas 
  • Hysbysebu i'r defnyddwyr er mwyn iddynt adnabod y brandiau Cymreig yn well gartref (Y DG) a thramor
  • Gwneud diwydiant cig coch Cymru yn fwy cystadleuol trwy gyfrwng gweithgareddau i drosglwyddo gwybodaeth a gweithgareddau ymchwil a datblygu
  • Cynllunio ar gyfer masnachu, cynhyrchu a phrosesu yn y dyfodol trwy sganio'r gorwel ac
  • Amddiffyn y diwydiant a hybu iechyd a maeth.

Er enghraifft, os yw chwyddiant blynyddol CPIH yn 2022 yn 8.8 y cant, byddai'r cyfraddau ardoll ar gyfer 23/24 yn cynyddu 8.8 y cant.

Chwyddiant (Ionawr-Rhagfyr) Cyfraddau Ardoll (Ebrill-Mawrth) Effaith ar gyfraddau
(gwerthoedd wedi'u talgrynnu i'r ceiniogau agosaf)
Cyfraddau ardoll gwartheg Cyfraddau ardoll defaid Cyfraddau ardoll mochyn
2022: 8.8% 23/24: cynnydd o 8% mewn cyfraddau Ardoll cynhyrchwyr yn cynyddu 38c

Mae ardoll lladd yn cynyddu 12c
Ardoll cynhyrchwyr yn cynyddu 6c

Mae ardoll lladd yn cynyddu 2c
Ardoll cynhyrchwyr yn cynyddu 9c

Mae ardoll lladd yn cynyddu 2c

Byddai cael cyfraddau'r ardoll i gyd-redeg â chwyddiant blynyddol yn gwneud yn siŵr fod incwm o'r ardoll yn cael ei gynnal mewn termau real a byddai'n golygu bod yr incwm yn y dyfodol yn parhau ar lefel na fyddai'n amharu ar y gallu i fuddsoddi. Byddai hynny'n diogelu'r diwydiant ar gyfer y dyfodol a byddai'n osgoi unrhyw gynnydd mawr yng nghyfraddau'r ardoll.

Ardoll Cig Coch Cymru

Mae Ardoll Cig Coch Cymru yn ardoll statudol sy’n cael ei thalu ar y cyd gan gynhyrchwyr a pherchnogion lladd-dai, ac sy’n cael ei chodi ar gyfer yr holl wartheg, defaid a moch sy’n cael eu lladd yng Nghymru. Oddi ar 2008, cyfrifoldeb HCC, ar ran Gweinidogion Cymru, yw casglu’r ardoll ar gyfer defaid, gwartheg cig eidion a moch yn y lladd-dai yng Nghymru. 

Cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru 2022/2023 (y pen) Cyfanswm Ardoll Ardoll Cynhyrchwr Ardoll Lladdwr
Defaid  £ 0.83  £ 0.63  £ 0.20
Gwartheg  £ 5.67  £ 4.34  £ 1.33
Lloi (hyd at 68kg)  £ 0.17  £ 0.085  £ 0.085
Moch  £ 1.30  £ 1.05  £ 0.25

 

Defnyddir yr ardoll gan HCC i ariannu gweithgareddau sy’n cynorthwyo i ddatblygu diwydiant cig coch Cymru (defaid, gwartheg a moch), yn enwedig gwaith na fyddai’n cael ei wneud dan amodau marchnata arferol. Defnyddir yr ardoll yn bennaf ar weithgareddau i ddatblygu’r farchnad – gan gynnwys hysbysebion ar gyfer defnyddwyr, cymell allforio, cynorthwyo brandiau yn y sectorau manwerth a gwasanaeth bwyd, datblygu cynhyrchion newydd a gweithgareddau mewnwelediad ymhlith defnyddwyr – ac ymchwil a datblygu. Caiff gweithgareddau datblygu’r diwydiant – megis cynorthwyo gwelliant genetig, trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant – eu hariannu’n bennaf trwy ddulliau eraill o gyllido.

Ceisio adborth y diwydiant

Mae HCC yn ceisio barn y diwydiant ynghylch yr argymhelliad i gael cyfraddau'r ardoll i gyd-redeg â chwyddiant, gan ddefnyddio traciwr, er mwyn gwneud yn siŵr fod incwm o'r ardoll yn cael ei gynnal mewn termau real. Mae cyfarfodydd agored i'r diwydiant yn cael eu cynnal ar draws Cymru yn ystod mis Tachwedd 2022, ynghyd â'r arolwg ar-lein hwn (ar gael ar-lein am 8 wythnos).

Ni chaiff unrhyw ddata personol eu casglu fel rhan o'r arolwg hwn a bydd y canfyddiadau yn ddienw.

HCC sy'n rheoli'r data ar gyfer yr ymchwil.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Drwy gwblhau’r arolwg ar-lein, rydych yn cydsynio i gael eich cynnwys yn adroddiad yr ymgynghoriad. Mae eich barn yn bwysig i HCC.

Y cyswllt ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yn HCC yw Kirsten Hughes.

Cyfeiriad E-bost: info@hybucig.cymru

Rhif Ffôn: 01970 625050

Beth sy'n digwydd nesaf?

Yn dilyn adborth gan y diwydiant, bydd Bwrdd HCC yn gwneud argymhelliad ynghylch cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru yn y dyfodol i'r Gweinidog Materion Gwledig.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog, byddai unrhyw newid yng nghyfraddau'r ardoll yn dod i rym ar 01 Ebrill 2023.