- Cartref
- Newyddion a Diwydiant
- Cig Oen a Chig Eidion Cymru’n Cyfoethogi Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi
Cig Oen a Chig Eidion Cymru’n Cyfoethogi Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn ymuno ag Wythnos Cymru yn Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang i roi mwy o sylw i fwyd a diod o Gymru yn y cyfnod o amgylch Dydd Gŵyl Dewi.
Nod Wythnos Cymru, sy'n digwydd eleni dros gyfnod estynedig o 20 Chwefror i 6 Mawrth, yw helpu busnesau a sefydliadau i greu diddordeb yn niwylliant a busnes Cymru yn Llundain a thu hwnt trwy hyrwyddo digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi a thrwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Cytunodd HCC i fod yn noddwr corfforaethol i Wythnos Cymru yn Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang er mwyn hyrwyddo'i frandiau Cig Oen Cymru PGI a Cig Eidion Cymru PGI ac, yn enwedig, ragoriaethau cynaliadwy ffermio da byw yng Nghymru.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd HCC 'Perffeithio'r Ffordd Gymreig', sef canllaw ymarferol i ffermio defaid a gwartheg eidion mewn modd cynaliadwy. Mae'r ddogfen yn pwysleisio fod Cymru eisoes yn un o'r mannau mwyaf cynaliadwy yn y byd o ran cynhyrchu cig oen a chig eidion drwy ddulliau sydd yn seiliedig ar borfa.
Yn y dathliadau eleni, bydd HCC yn cymryd rhan yn y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd, a bydd Cig Oen Cymru a Cig Eidion Cymru yn cael sylw ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Wythnos Cymru yn Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang.
Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu HCC, Owen Roberts: “Mae ein neges ynghylch hanes clodwiw bwyd a ffermio Cymru o ran cynaliadwyedd yn un rydym am ei throsglwyddo'n glir i bedwar ban y byd. Bydd gweithio mewn partneriaeth ag Wythnos Cymru yn Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang yn ein helpu i wneud hynny.
"Yn dilyn dwy flynedd o ddigwyddiadau a oedd yn rhithiol gan fwyaf, edrychwn ymlaen yn fawr at gyfarfod pobl wyneb yn wyneb yn y digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi, yn ogystal â rhannu’r wefr dros y cyfryngau cymdeithasol.”
24/02/2022