Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Archwiliwch wasanaethau gwartheg newydd EIDCymru yn Sioe Frenhinol Cymru

By Siwan

Gwahoddir ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru i ddarganfod y gwasanaethau gwartheg diweddaraf sydd ar gael trwy EIDCymru, gwasanaeth olrhain symudiadau da byw ar-lein ar gyfer Cymru.   Mae EIDCymru eisoes yn gyfarwydd i ffermwyr defaid ledled Cymru, a bellach mae’n cynnig gwasanaethau i ffermwyr gwartheg. Bydd tîm EIDCymru wrth law yn y sioe i ddarparu gwybodaeth, ateb cwestiynau a helpu ffermwyr … Continued

Lansio ymgyrch: ‘Naturiol a Lleol. Chwiliwch am y Logo’

By Siwan

‘Chwiliwch am y logo’: dyna neges ymgyrch newydd gwerth £300,000 sy’n annog pobl ledled Cymru i brynu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Mae’r brandio nodedig ar y cynhyrchion yn dangos yr arwydd sy’n dynodi tarddiad dibynadwy i ddefnyddwyr. Drwy gydol y flwyddyn, bydd yr ymgyrch ‘Naturiol a Lleol. Chwiliwch am y … Continued

Cyfyngiadau cyflenwad yn parhau i gynnal marchnadoedd ŵyn

By Siwan

Mae Bwletin y Farchnad mis Mehefin yn rhoi cipolwg ar y sector defaid, gan ganolbwyntio ar dueddiadau cyfredol o ran cyflenwad, masnach a galw gan gwsmeriaid. Pwyntiau allweddol:  Mae prisiau ŵyn wedi parhau i berfformio’n gryf yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn oherwydd cyfyngiadau cyflenwad a galw cadarn.  Disgwylir i’r cyflenwad barhau’n gymharol dynn yn ystod ail hanner y flwyddyn, oherwydd llai o ŵyn.   Mae’r galw am allforion yn parhau’n gefnogol, gan gyfrif am tua thraean o’r cynhyrchiad. Mae cyflenwadau tynnach mewn nifer o’r prif wledydd allforio yn helpu i gefnogi marchnadoedd cig dafad rhyngwladol.  Wrth edrych ymlaen, bydd cynnal y gallu i gystadlu mewn marchnadoedd allforio, ynghyd â sicrhau bod defnyddwyr yn cydnabod ansawdd, manteision maethol ac amlbwrpasedd cig oen, yn hollbwysig.  I ddarllen y dadansoddiad llawn, cliciwch YMA i weld Bwletin Marchnad mis Mehefin. Mae hefyd yn cynnwys crynodeb misol o’r prisiau diweddaraf ar … Continued

Gwahodd ffermwyr defaid Cymru i ymuno â chyfnod newydd o raglen geneteg

By Siwan

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn galw ar ffermwyr defaid ledled Cymru i gymryd rhan mewn cyfnod tair-blynedd newydd a chyffrous o Geneteg Defaid Cymru, rhaglen sydd â’r nod o gefnogi dyfodol ffermio defaid drwy wella perfformiad, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd amgylcheddol diadelloedd. O heddiw ymlaen (1 Gorffennaf), anogir bridwyr defaid mamol a mynydd i gofrestru … Continued

Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf

By Siwan

O 1 Gorffennaf ymlaen, gwahoddir ffermwyr i gofrestru eu diddordeb i ymuno â Geneteg Defaid Cymru (WSG) ar gyfer Cam 2 o’r prosiect. Gyda HCC yn arwain, mae’n cael ei gynllunio i helpu bridwyr i wella’u cynhyrchiant, effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol, gan gefnogi penderfyniadau bridio gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd cyfranogwyr yn derbyn cymorth … Continued

Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol

By Siwan

Daeth carfan Cig-weithio 2025–26 ynghyd yn ddiweddar ar gyfer eu sesiwn grŵp olaf, gan nodi diwedd y rhaglen gyda thrafodaeth fyfyriol a diddorol am eu profiadau drwy gydol y flwyddyn. Cynhaliwyd sesiwn y bore yn y Trallwng a bu’n gyfle i’r unigolion gyflwyno gwybodaeth am eu diwrnod yn y diwydiant, lle cawsant eu paru â … Continued

Trafodaethau cadarnhaol gyda Gweinidog Cabinet newydd Llywodraeth Cymru

By Siwan

Croesawodd Cadeirydd HCC, Cath Smith, a’r Prif Weithredwr, José Peralta, y cyfle i gwrdd â Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, ym Mae Caerdydd yr wythnos diwethaf. Roedd y drafodaeth adeiladol ac uchelgeisiol yn gyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’r Gweinidog Cabinet, Llyr Gruffydd, ar gynllun gweithredu strategol newydd HCC, yn ogystal … Continued

Cig oen sy’n cipio coron y Pasg

By Siwan

Mae Bwletin y Farchnad mis Mai yn edrych ar dueddiadau bwyta cig oen yn siopau Prydain yn ystod cyfnod y Pasg 2026. Pwyntiau allweddol: Cafwyd cynnydd o 0.9% flwyddyn ar flwyddyn mewn gwerthiannau bwyd cartref ar ddechrau Ebrill eleni, tra bod chwyddiant bwyd wedi lleddfu ychydig i 3.8%, ei lefel isaf ers Ebrill 2025 (Worldpanel … Continued

Eidalwyr yn gwledda ar Gig Oen Cymru

By Siwan

Gweiniwyd Cig Oen Cymru i griw o Eidalwyr yn cynnwys manwerthwyr, dosbarthwyr, proseswyr a’r Conswl Cyffredinol Prydeinig, Kassim Ramji mewn digwyddiad preifat yn yr Eidal yr wythnos ddiwethaf, a hynny i gyd-fynd â sioe fasnach TuttoFood Milan. Paratowyd y cig oen yn ofalus gan y cogydd Seren Michelin, Carlo Cracco yn ei fwyty ym Milan, … Continued