Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gwerth £3 miliwn o gyllid ar gael dros y tair blynedd ariannol nesaf i barhau â Rhaglen Geneteg Defaid Cymru (WSGP), gan gefnogi ffermwyr defaid Cymru i wella effeithlonrwydd, cynhyrchiant a pherfformiad amgylcheddol.  O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn cymryd yr awenau ar Gam 2 y rhaglen, gan nodi cam sylweddol ymlaen wrth gefnogi ffermwyr defaid Cymru i wneud penderfyniadau mwy clyfar o ran bridio, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd y cam newydd yn darparu cymorth pontio i gyfranogwyr presennol a hefyd yn agor y rhaglen i ddiadelloedd newydd. Bydd ffermwyr yn elwa ar gymorth ymarferol, technegol ac ariannol i fanteisio ar Werthoedd Bridio Amcangyfrifedig Genomig - offer genetig blaengar sy'n sicrhau penderfyniadau mwy deallus ar lefel fferm. Bydd y data genetig a gesglir yn gwella gwaith meincnodi'r diwydiant ac yn hwyluso gwaith cynllunio busnes hirdymor.

Bydd Cam 2 hefyd yn cynnwys datblygu dangosyddion perfformiad allweddol cadarn, cynllunio camau gweithredu wedi'u teilwra ar lefel fferm, a phortffolio uchelgeisiol o brosiectau ymchwil sy'n anelu at sbarduno arloesedd ar draws y sector.

Mae amcanion y rhaglen yn cyd-fynd yn agos â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a lansiwyd ar 1 Ionawr 2026, a Gweledigaeth HCC 2030 — gan danlinellu ymrwymiad a rennir i ddiwydiant cig coch Cymreig cynhyrchiol, cynaliadwy a chystadleuol.

Bydd Cam 1 y Rhaglen a ddarperir gan Cyswllt Ffermio yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026. Ers lansio'r Rhaglen yn 2023 mae wedi cyflawni cynnydd sylweddol, gan gynnwys:

  • Cyflwyno genomeg i'r sector defaid am y tro cyntaf, yn unrhyw le yn y byd.
  • Cynhyrchu nifer uchaf y genoteipiau ar gronfa ddata AHDB‑Signet - 70,000 ar draws diadelloedd Haen 1 a Haen 2 ers 2023.
  • Datblygu dau linyn ymchwil arloesol‑: bridio ar gyfer ymwrthedd i lyngyr a bridio ar gyfer lleihau allyriadau methan.
  • Gweithio mewn partneriaeth agos ag arbenigwyr blaenllaw, gan gynnwys Innovis ac AHDB‑Signet.
  • Sbarduno enillion genetig mesuradwy a gwelliannau mewn nodweddion perfformiad allweddol ar draws diadelloedd sy'n rhan o'r Rhaglen.

Mae'r buddsoddiad hwn yn sail i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a hefyd gynhyrchu Cig Oen Cymru PGI cynaliadwy o ansawdd uchel‑.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Mae'r cyllid hwn yn tystio i'n hymrwymiad i gefnogi ffermwyr i adeiladu busnesau proffidiol, gwydn er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd. Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd gwyddoniaeth flaengar yn mynd law yn llaw â thraddodiad balch ffermio da byw yng Nghymru. Trwy helpu ffermwyr i fridio diadelloedd iachach, mwy cynhyrchiol gydag ôl troed amgylcheddol is, rydym yn cryfhau diogelwch bwyd ac yn diogelu ein heconomi wledig am y tymor hir."

Dywedodd José Peralta, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru: "Mae'r cynnydd a gyflawnwyd hyd yma yn adlewyrchu ymrwymiad ffermwyr ledled Cymru, gwaith tîm Cyswllt Ffermio, a chefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn sicrhau sylfaen gref ar gyfer y cam nesaf.

"Mae'r cam nesaf hwn yn cefnogi'n uniongyrchol flaenoriaeth graidd ein cynllun strategol newydd - sef datblygu ac arwain gwaith creu mentrau sy'n gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol. Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda ffermwyr i sicrhau bod ganddynt yr offer, y mewnwelediadau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod."


You may also like

Cynhyrchion Cig Oen Cymru newydd yn cyrraedd y farchnad
Cynhyrchion Cig Oen Cymru newydd yn cyrraedd y farchnad
Cynhyrchion Cig Oen Cymru newydd yn cyrraedd y farchnad
Cynhyrchion Cig Oen Cymru newydd yn cyrraedd y farchnad
Rheolaeth buchesi sugno a sut mae’n effeithio ar y busnes
Rheolaeth buchesi sugno a sut mae’n effeithio ar y busnes
HCC yng Nghynhadledd BISAS
HCC yng Nghynhadledd BISAS