Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Dadansoddi tueddiadau’r sector defaid

By Nia

Mae Bwletin y Farchnad y mis hwn yn canolbwyntio ar sector defaid y DU, gan dynnu sylw at dueddiadau cyfredol a ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar y farchnad ar hyn o bryd. Pwyntiau allweddol: Mae trwybwn defaid ac ŵyn 2025 (hyd at fis Medi) yn gyson gadarn o’i gymharu â lefelau’r flwyddyn flaenorol, ac wedi … Continued

Darlun cymysg i fasnach cig eidion a defaid yn hanner cyntaf 2025

By Nia

Mae bwletin y farchnad diweddaraf HCC, a ryddhawyd wythnos yma, yn edrych ar ddata HMRC ar ffigyrau masnach ar gyfer cynnyrch cig coch ffres ac wedi’i rewi yn ystod chwe mis cyntaf 2025. Prif bwyntiau: Yn hanner cyntaf 2025, gwelwyd gostyngiad o 4% mewn cynhyrchiant cig eidion o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2024. Yn … Continued

Gwneud bywyd yn haws gyda chyfrif EIDCymru

By Nia

Bydd staff EIDCymru ar daith dros yr wythnosau nesaf, yn hyrwyddo’r cyfleusterau defnyddiol sydd ar gael i geidwaid defaid, geifr a cheirw ar eu gwefan cofnodi symudiadau. Bydd y tîm yn ymweld â marchnadoedd ac arwerthiannau hyrddod a defaid magu dros Gymru – o Ruthun i Gaerfyrddin – yn annog ffermwyr i gofrestru ar gyfer … Continued

HCC yn cefnogi datblygiad tri ar ddeg math o laswellt a meillion

By Nia

Mae dwy feillionen wen, un feillionen goch, dau rygwellt Eidalaidd ac wyth rhygwellt lluosflwydd wedi’u hychwanegu at y Rhestr Glaswellt a Meillion Cymeradwy i Gymru a Lloegr 2025/26 (RGCL). Mae cynnwys y tri ar ddeg math o laswellt a meillion yn y llawlyfr blynyddol, RGCL yn ychwanegu cryfder at yr opsiynau sydd ar gael i … Continued

Geneteg defaid am ddyfodol proffidiol a gwyrddach i gig

By Nia

Bydd gweminar i’r diwydiant yn cyflwyno manteision gwelliannau geneteg i fusnesau ffermio, ac mae cynhyrchwyr o bob cwr o’r DU yn cael eu hannog i gofrestru ar ei gyfer. Wedi’i drefnu gan Hybu Cig Cymru (HCC) a chwmni Signet Breeding Services, bydd y weminar yn tynnu sylw at ganlyniadau arwyddocaol prosiectau yn cynnwys RamCompare, prawf … Continued

Y cyngor diweddaraf ar y Tafod Glas

By Nia

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn annog ffermwyr i fod yn ymwybodol o gyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch y Tafod Glas a chyfyngu ar symud anifeiliaid. Caiff firws y tafod glas ei drosglwyddo’n bennaf gan frathiadau gwybed ac mae’n cael effaith ar wartheg, geifr a defaid. Gall yr effeithiau ar anifeiliaid sy’n agored i niwed … Continued

Eidalwyr yn mwynhau gwir flas Cymru

By Nia

Bu prif werthwyr un o gyflenwyr gwasanaethau bwyd mwyaf blaenllaw yr Eidal yn ymweld â Chymru yn ddiweddar fel rhan o ymgyrch a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru. Mewn cydweithrediad â’r prosesydd cig coch, Kepak, ymwelodd pump o werthwyr mwyaf llwyddiannus Polo Ristorazione â safle prosesu Kepak ym Merthyr Tudful, yn ogystal ag ymweld â … Continued

Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed

By Nia

Mae prinder cyflenwad cig eidion gartref a thramor wedi peri cynnydd o bron i 40 y cant ym mhrisiau pwysau-marw gwartheg mewn dim ond naw mis –  sy’n golygu y gallai’r pris gyrraedd dros £7 y kilo yn fuan iawn. Mae prisiau cig eidion yn torri record bron bob wythnos wrth i’r cyflenwad brinhau, nid … Continued

Lleihau bylchau lloia i arbed arian a hybu cynhyrchiant

By Nia

Mae data newydd yn dangos bod ffermwyr yn dechrau arbed arian drwy leihau’r bylchau lloia – ond mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod cryn gyfle o hyd i fod yn fwy proffidiol. Y bwlch lloia cyfartalog ar gyfer buchod cig eidion yng Nghymru oedd 420 diwrnod yn 2024, yn ôl data diweddaraf Gwasanaeth Symud Gwartheg … Continued