Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae diet a maeth sy’n cynnwys cig coch yn chwarae rhan hollbwysig mewn beichiogrwydd – dyna oedd neges allweddol Hybu Cig Cymru (HCC) i dros 500 o fydwragedd yn ddiweddar yng Ngŵyl Mamolaeth a Bydwreigiaeth Cymru a De Orllewin Lloegr.

Roedd y digwyddiad yng Nghaerfaddon ar 17 Medi, yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol bydwragedd drwy gyfrwng sgyrsiau, seminarau ymchwil, cyfleoedd i rwydweithio ac arddangosfeydd.  Bu HCC yn ymgysylltu â bydwragedd i wneud yn siŵr bod negeseuon yn ymwneud â chig coch o ran iechyd a maeth yn cyrraedd gweithwyr iechyd proffesiynol, mamau beichiog a theuluoedd ifanc

Yn y digwyddiad, rhannodd HCC ei adnoddau diweddaraf ar gig coch sydd yn seiliedig ar dystiolaeth  ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â gwybodaeth, cyngor a syniadau am ryseitiau iach a chytbwys i’w rhannu â chydweithwyr, cleifion a theuluoedd.

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr: “Roeddem yn falch iawn o allu ymgysylltu â bydwragedd fel rhan o’n gwaith yma yn HCC. Mae gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol wedi bod yn elfen allweddol o’n strategaeth erioed ac mae bydwragedd yn darparu cymorth a chyngor mor amhrisiadwy i deuluoedd mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.

“Gyda hynny mewn golwg, roeddem am achub ar y cyfle i gyfleu negeseuon yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch cig coch a maeth sy’n berthnasol i fydwragedd a’u cleifion. Mae diet a maeth yn chwarae rhan allweddol yn ystod beichiogrwydd ac mae cig coch heb lawer o fraster fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffynhonnell dda o brotein, sinc, haearn, magnesiwm a fitaminau B.”

Ychwanegodd Elwen: “Mae menywod beichiog mewn perygl mawr o beidio â chael digon o haearn, a gall hyn arwain at flinder, gwendid a mynd yn groendenau. Ond mae ffynonellau haearn sy’n deillio o anifeiliaid – fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru –  yn cynnwys haearn hem sy’n cael ei amsugno’n haws gan y corff ac sy’n gallu helpu’r corff i amsugno haearn o ffynonellau sy’n seiliedig ar blanhigion fel sbigoglys neu frocoli.”

Dywedodd Julie Richards, Cyfarwyddwraig Coleg Brenhinol y Bydwragedd: “Rydym i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd diet iach a chytbwys, ond gyda swyddi prysur, ymrwymiadau teuluol ac amser cyfyngedig, gall gwireddu hyn weithiau ymddangos yn amhosib. Y newyddion da yw y gall gwneud rhai newidiadau bach, syml i’r ffordd rydym yn siopa, yn coginio ac yn bwyta helpu i ffitio bwyta’n iach i mewn i ddiwrnod gwaith prysur.

“Mae’r wybodaeth a’r adnoddau sy’n cael eu darparu gan Hybu Cig Cymru yn ddefnyddiol i fydwragedd oherwydd maen nhw wedyn yn gallu trafod y pwnc gyda menywod beichiog a’u teuluoedd. Yn ogystal, maen nhw’n gallu rhannu syniadau sydd, gydag ychydig o flaengynllunio ymlaen llaw, yn profi y gall pryd o fwyd cyflym roi llond bol o fwyd blasus sydd hefyd yn iachus.”

You may also like

HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru