Bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn dod â ffermwyr, proseswyr, cynrychiolwyr o’r diwydiant a rhanddeiliaid ynghyd ar gyfer ei chynhadledd flynyddol ym mis Tachwedd eleni, gan ganolbwyntio ar gydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi i sicrhau dyfodol gwydn a chystadleuol i ddiwydiant cig coch Cymru.
Fe gynhelir y gynhadledd ar 12 Tachwedd 2026 yng Nghanolfan yr Aelodau, Maes y Sioe Frenhinol gyda’r teitl, O Weledigaeth i Werth: llwyddo trwy gydweithio. Bydd yn archwilio sut y gall y diwydiant gydweithio i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a mynd i'r afael â’r heriau.
Daw'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dilyn lansio Cynllun Gweithredu Strategol HCC yn gynharach eleni, a ddatblygwyd yn sgil ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Mae’r cynllun yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer diwydiant cig coch ffyniannus, cynaliadwy a phroffidiol yng Nghymru, wedi'i seilio ar dair blaenoriaeth strategol.
Ymhlith siaradwyr y gynhadledd mae'r awdur a darlledwr bwyd Simon Wright, Cadeirydd gweithgor arbenigol i lywio’r gwaith o ddatblygu’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol, a fydd yn rhannu ei farn ar gyfeiriad y sector bwyd yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd y gynulleidfa hefyd yn clywed gan Sophie Colquhoun o Category Insight, a fydd yn cyflwyno ymchwil newydd sy'n archwilio gwerth tarddiad Cymreig wrth i ddefnyddwyr wneud penderfyniadau prynu cig coch.
Bydd enillydd Ysgoloriaeth HCC yn 2025, Ben Lloyd James yn cyflwyno canfyddiadau ei astudiaeth, O Wybodaeth i Weithredu: Lleihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr mewn Systemau Cig Eidion a Defaid sy'n Seiliedig ar Bori. Gan gyfeirio at ymweliadau ag Iwerddon, y Swistir a'r Iseldiroedd, mae'r astudiaeth yn archwilio dulliau ymarferol o wella perfformiad amgylcheddol tra'n cynnal systemau da byw cynhyrchiol.
Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys trafodaeth banel gyda ffermwyr sy'n gweithio gyda HCC ar ystod o raglenni effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. Byddant yn trafod pwysigrwydd mesur a defnyddio data i gefnogi penderfyniadau busnes ac i gynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb mentrau ffermio.
Hefyd ar yr agenda mae diweddariad gan staff HCC ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau strategol y sefydliad, a bydd cyfle i glywed yn uniongyrchol gan aelodau Bwrdd HCC.
Meddai Meilyr Ceredig, Pennaeth Gweithrediadau a Materion Allanol HCC:
"Pan lansiwyd ein cynllun gweithredu strategol yn gynharach eleni, gwnaethom nodi y byddai cyflawni gweledigaeth HCC ar gyfer diwydiant cig coch Cymru ffyniannus, gynaliadwy a phroffidiol yn gofyn am ymrwymiad ar y cyd gan y diwydiant a'i randdeiliaid i sicrhau gwerth, gwydnwch a llwyddiant hirdymor y sector.
"Mae'r gynhadledd hon yn gyfle i fyfyrio ar sefyllfa bresennol y diwydiant, archwilio'r cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau, a chlywed sut mae HCC yn ceisio gweithio gyda phartneriaid ar draws y gadwyn gyflenwi i gadw a chynyddu gwerth i Gymru.
"Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant, mewnwelediadau i'r farchnad a'r blaenoriaethau strategol sy'n llywio'r sector."
Bydd cinio a chyfle i rwydweithio am 12pm, cyn i'r gynhadledd ddechrau am 1pm.





