Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae wyth fferm ddefaid a gwartheg bîff flaengar ar draws Cymru wedi’u dewis i ddechrau ar daith uchelgeisiol i fesur effaith amgylcheddol eu busnesau fel rhan o brosiect cenedlaethol cyffrous.

Maen nhw’n cynrychioli diwydiant cig coch Cymru ym mhrosiect Peilot Llinell Sylfaen yr Amgylchedd - menter gydweithredol rhwng byrddau ardoll y DU, wedi’i arwain gan AHDB gyda chefnogaeth gan Hybu Cig Cymru (HCC) a QMS.

Bwriad y gwaith yw arddangos rôl hanfodol amaethyddiaeth, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd, ond o ran gwarchod yr amgylchedd - o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac adeiladu stociau carbon i wella iechyd y pridd a chefnogi bioamrywiaeth.

Dewiswyd y ffermydd o Gymru yn seiliedig ar ffactorau’n ymwneud â lleoliad daearyddol, topograffi, y math o bridd a systemau ffermio. Roedden nhw’n ymuno â grŵp mwy o 170 o ffermydd ar draws Lloegr a’r Alban, ynghyd â ffermwyr llaeth ac âr yng Nghymru.

Dyma’r wyth sy’n rhan o’r peilot:

  • Alwyn Phillips, Caernarfon
  • Andrew Edwards, Nelson
  • Catrin George, Brechfa
  • Haulwen Jones, Blaenau Ffestiniog
  • Huw a Daniel Owen, Pen-y-bont Fawr
  • Keri a Julie Daves, Aberhonddu
  • Peter Morris, Penfro
  • Stephen a Lisa Harwick, Llandrindod Wells

Mae gweithgareddau samplo a sganio wedi digwydd eisoes ar y ffermydd i fesur allyriadau nwyon tŷ gwydr, stociau carbon yn y pridd a’r tirlun. Mae hyn yn cynnwys samplu’r carbon yn y pridd hyd at 1m o ddyfnder a sganio LiDAR, yn ogystal ag archwilio carbon a chreu cynlluniau gweithredu unigryw ar gyfer pob fferm.

Meddai Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Effeithiolrwydd a Chynaliadwyedd y Diwydiant yn HCC: “Rydym ni’n falch i gefnogi’r peilot cyffrous hwn a chefnogi cynhyrchwyr cig coch wrth iddynt gymryd camau breision i gwblhau asesiad sylfaenol a deall effaith amgylcheddol eu busnesau’n well.

“Bwriad y gwaith yw creu set ddata cenedlaethol, yn dangos amrediad ac amrywiaeth y canlyniadau o ffermydd unigol, ac i alluogi’r diwydiant i symud oddi wrth ffigyrau cenedlaethol a rhyngwladol cyfartalog. Bydd y data yn help i arddangos manteision amgylcheddol go iawn y diwydiant amaeth a chynnig darlun mwy cywir o’i sefyllfa a’i gynnydd tuag at Sero Net.”

Yn ddiweddar, cyhoeddodd HCC gynllun gweithredu strategol newydd - Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch: Darparu Gwerth i Gymru - sy’n amlinellu tri maes blaenoriaeth i’r sefydliad. Mae Blaenoriaeth 2 yn edrych ar ddatblygu ac arwain ar y gwaith o weithredu mentrau sy’n gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol.

Ychwanegodd Dr Thomas: “Er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i ddiwydiant cig coch Cymru, mae’n hanfodol cydbwyso perfformiad economaidd â stiwardiaeth amgylcheddol. Mae HCC wedi ymrwymo i fesur perfformiad amgylcheddol ac economaidd y sefyllfa bresennol a sicrhau gwelliannau drwy gydweithio â’r diwydiant. Mae’r peilot hwn yn rhan allweddol o’r addewid hwnnw, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r wyth fferm yng Nghymru a’u galluogi i weithredu ar sail mewnwelediad tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.”

Am fwy o wybodaeth am y prosiect a’r ffermwyr sy’n rhan ohono, cliciwch yma:  Prosiect Llinell Sylfaen yr Amgylchedd - Hybu Cig Cymru

You may also like

Ffermydd da byw o Gymru yn ymuno â phrosiect peilot amgylcheddol arloesol
Ffermydd da byw o Gymru yn ymuno â phrosiect peilot amgylcheddol arloesol
Niferoedd gwartheg a lloi yn parhau i ostwng
Niferoedd gwartheg a lloi yn parhau i ostwng
Arbenigedd newydd yn ymuno â Bwrdd HCC wrth i gynllun strategol newydd osod cyfeiriad clir i’r dyfodol
Arbenigedd newydd yn ymuno â Bwrdd HCC wrth i gynllun strategol newydd osod cyfeiriad clir i’r dyfodol
Cig Eidion Cymru PGI yn disgleirio wrth i ymgyrch ‘Naturiol a Lleol’ sicrhau cyrhaeddiad cryf
Cig Eidion Cymru PGI yn disgleirio wrth i ymgyrch ‘Naturiol a Lleol’ sicrhau cyrhaeddiad cryf