Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

O 1 Gorffennaf ymlaen, gwahoddir ffermwyr i gofrestru eu diddordeb i ymuno â Geneteg Defaid Cymru (WSG) ar gyfer Cam 2 o’r prosiect. Gyda HCC yn arwain, mae’n cael ei gynllunio i helpu bridwyr i wella’u cynhyrchiant, effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol, gan gefnogi penderfyniadau bridio gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd cyfranogwyr yn derbyn cymorth ymarferol, technegol ac ariannol i’w helpu i wneud y gorau o welliannau genetig hirdymor. Bydd y rhaglen hefyd yn adeiladu ar set ddata a ddatblygwyd yn wreiddiol drwy’r Cynllun Hyrddod Mynydd (a ddarparwyd yn flaenorol gan HCC) a Cham 1 o’r WSG (a ddarparwyd yn flaenorol gan Gyswllt Ffermio).

Bydd ffermwyr sy’n ymuno â WSG yn elwa o:

  • Genoteipio ŵyn wedi’i ariannu’n llwyr ar gyfer adnabod rhianta sy’n seiliedig ar DNA
  • Gwerthusiadau genetig a sganio braster cefn uwchsain wedi’u hariannu
  • Meincnodi perfformiad eu stoc
  • Mynediad at dechnolegau genetig a genomeg o’r radd flaenaf
  • Canllawiau a chymorth gyda chofnodi DNA pedigri ac â llaw

Meddai Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Effeithlonrwydd a Chynaliadwyedd y Diwydiant yn HCC: “Os hoffech elwa o’r cymorth hwn a defnyddio genomeg i ddatblygu eich diadell o ddefaid, nodwch y 1af o Orffennaf yn eich dyddiadur, sef y dyddiad y bydd y ffenestr yn agor i fynegi eich diddordeb mewn ymuno â’r prosiect.”

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol cadarn, cynlluniau gweithredu wedi’u teilwra ar lefel fferm, ac ystod o fentrau ymchwil sydd â’r nod o ysgogi arloesedd o fewn y sector.

Bydd y wybodaeth enetig a gesglir yn gwella meincnodi’r diwydiant ac yn cefnogi cynllunio busnes tymor hir, gan gryfhau cadwyni cyflenwi, cyflwyniad cynhyrchion, a photensial marchnata diadelloedd i fridwyr yn y pen draw.

Yn y cyfamser, cysylltwch â HCC yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth – info@hybucig.cymru neu 01970 625050.

You may also like

Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf
Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf
Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol
Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol
Cadwch y dyddiadau: digwyddiadau ymgysylltu i ddod
Cadwch y dyddiadau: digwyddiadau ymgysylltu i ddod
Trafodaethau cadarnhaol gyda Gweinidog Cabinet newydd Llywodraeth Cymru
Trafodaethau cadarnhaol gyda Gweinidog Cabinet newydd Llywodraeth Cymru