Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn galw ar ffermwyr defaid ledled Cymru i gymryd rhan mewn cyfnod tair-blynedd newydd a chyffrous o Geneteg Defaid Cymru, rhaglen sydd â’r nod o gefnogi dyfodol ffermio defaid drwy wella perfformiad, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd amgylcheddol diadelloedd.

O heddiw ymlaen (1 Gorffennaf), anogir bridwyr defaid mamol a mynydd i gofrestru eu diddordeb mewn ymuno â’r rhaglen, sydd wedi’i chynllunio i gefnogi penderfyniadau bridio ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n sicrhau buddion hirdymor i fusnesau ffermio.

Mae’r rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd drwy’r Cynllun Hyrddod Mynydd a chyfnod cyntaf Geneteg Defaid Cymru. Mae’r ail gyfnod hwn yn cynnig mynediad i ffermwyr at offer a chymorth i’w helpu i ddatgloi llawn botensial eu diadelloedd.

Bydd ffermwyr sy’n ymuno â’r rhaglen yn manteisio ar becyn cymorth sy’n cynnwys:

  • Samplu DNA a genoteipio ŵyn wedi’u hariannu’n llwyr yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer gwirio rhianta DNA
  • Gwerthusiadau genetig wedi’u hariannu i lywio penderfyniadau bridio
  • Sganio uwchsain braster cefn wedi’i ariannu
  • Meincnodi perfformiad diadelloedd
  • Mynediad at dechnoleg genetig a genomig flaenllaw
  • Canllawiau ar gofnodi pedigri â llaw ac ar sail DNA

Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cynlluniau gweithredu bridio wedi’u teilwra, gan gyfrannu ar yr un pryd at ymchwil ac arloesedd ehangach o fewn sector defaid Cymru.

Meddai Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Effeithlonrwydd a Chynaliadwyedd y Diwydiant yn HCC:

“Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle gwerthfawr i ffermwyr fanteisio ar fuddion gwelliant genetig, gyda chefnogaeth drwy gyngor ymarferol a thechnolegau arloesol. Bydd y data a gesglir yn helpu i gryfhau perfformiad diadelloedd, gwella cyfleoedd marchnata a chefnogi cynllunio hirdymor ar gyfer y diwydiant.

“Os oes gennych ddiddordeb mewn casglu data a chofnodi perfformiad, ac os ydych yn awyddus i ymgysylltu â gwelliant a gwerthusiadau genetig, byddem yn falch o glywed gennych.”

Cynhelir cyfres o gyfarfodydd ledled Cymru yn ystod mis Gorffennaf a dechrau Awst, lle bydd ffermwyr yn gallu dysgu mwy am y rhaglen a’r broses ymgeisio. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 14 Awst.

Mae rhagor o fanylion a’r ffurflen gais ar gael yma: Geneteg Defaid Cymru - Hybu Cig Cymru

You may also like

Gwahodd ffermwyr defaid Cymru i ymuno â chyfnod newydd o raglen geneteg
Gwahodd ffermwyr defaid Cymru i ymuno â chyfnod newydd o raglen geneteg
Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf
Geneteg Defaid Cymru yn agor i geisiadau ar 1 Gorffennaf
Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol
Aelodau Cig-weithio yn myfyrio ar raglen addysgiadol
Cadwch y dyddiadau: digwyddiadau ymgysylltu i ddod
Cadwch y dyddiadau: digwyddiadau ymgysylltu i ddod