Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi'i gyhoeddi yn Brif Noddwr NSA Welsh Sheep 2027, gan arddangos ei ymrwymiad i gefnogi sector defaid Cymru a’i ddatblygiad i’r dyfodol.

Cadarnhaodd Cymdeithas Genedlaethol y Defaid (NSA) hefyd fod Pilgrim’s Europe yn Brif Noddwr y digwyddiad blaenllaw hwn, a gynhelir ddydd Mercher 19 Mai 2027 yn Ty-Draw, Llanasa, Treffynnon, dan ofal y teulu Roberts.

Caiff nawdd HCC ei ariannu drwy Gam 2 Geneteg Defaid Cymru (Welsh Sheep Genetics - WSG), sef menter dair blynedd gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli gan y corff ardoll cig coch. Yn ystod y digwyddiad, bydd HCC yn arddangos y rhaglen a'i rôl wrth annog y defnydd o welliant genetig mewn diadelloedd defaid dros Gymru.

Nod WSG yw helpu cynhyrchwyr i wella cynhyrchiant, effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol drwy wneud defnydd gwell o ddata perfformiad a phenderfyniadau bridio sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r fenter hefyd yn cefnogi meincnodi diwydiant, cynllunio busnes hirdymor ac arloesedd parhaus ar draws y sector defaid.

Bydd NSA Welsh Sheep 2027 yn darparu llwyfan delfrydol i HCC ymgysylltu'n uniongyrchol â ffermwyr, bridwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ledled Cymru, gan ddangos sut y gall gwelliant genetig gyfrannu at lwyddiant mentrau defaid.

Meddai Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Effeithlonrwydd a Chynaliadwyedd y Diwydiant HCC: "Mae HCC yn falch o barhau â'i gefnogaeth hirdymor i NSA Welsh Sheep ac yn edrych ymlaen at arddangos manteision Geneteg Defaid Cymru i ffermwyr a bridwyr yn y digwyddiad."

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr NSA: NSA Welsh Sheep 2027 announces Hybu Cig Cymru and Pilgrim’s Europe as Major Sponsors

You may also like

Cwrdd â HCC yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
Cwrdd â HCC yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
Cyhoeddi tri enillydd Ysgoloriaeth HCC yn y gynhadledd flynyddol
Cyhoeddi tri enillydd Ysgoloriaeth HCC yn y gynhadledd flynyddol
Cofrestrwch nawr ar gyfer Cynhadledd HCC 2026
Cofrestrwch nawr ar gyfer Cynhadledd HCC 2026
Bwletin y Farchnad Haf 2026: newid tueddiadau defnyddwyr mewn cig coch mewn manwerthu
Bwletin y Farchnad Haf 2026: newid tueddiadau defnyddwyr mewn cig coch mewn manwerthu

Cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin wythnosol

Darllenwch y diweddaraf gan HCC, yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith a newyddion o’r diwydiant ehangach. Unwaith y mis, mae ein Bwletin Marchnad hefyd yn rhannu’r mewnwelediad diweddaraf o’r marchnadoedd, o brisiau pwysau marw da byw i’r prif dueddiadau sy’n siapio’r diwydiant cig coch.

Llwyddiant!