Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn parhau i archwilio ffyrdd newydd o gysylltu â defnyddwyr, trwy ddefnyddio llwyfannau AI i hysbysebu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. 

Fel rhan o'r ymgyrch 'Chwiliwch am y Logo' gyfredol, bu HCC yn treialu hysbysebu trwy ChatGPT yn ddiweddar, ymestyn eu cyrhaeddiad y tu hwnt i sianeli hysbysebu cyfryngau cymdeithasol, fideo ac arddangos traddodiadol. 

Mae deallusrwydd artiffisial yn dod yn rhan gynyddol gyffredin o fywyd bob dydd ledled y DU, gyda phobl yn defnyddio adnoddau wedi'u pweru gan AI i chwilio am wybodaeth, cefnogi eu gwaith, a rheoli tasgau dyddiol. Canfu ymchwil diweddar gan Ofcom fod mwy na hanner oedolion y DU (54%) wedi defnyddio offeryn AI cynhyrchiol yn 2025. Ystyrir ChatGPT fel yr offeryn AI sy’n cael ei ddefnyddio’n fwyaf eang yn y byd a chafodd ei ddefnyddio gan 1.8 biliwn o ymweliadau yn ystod wyth mis cyntaf 2025. 

Mae'r gweithgarwch yn rhan o waith parhaus HCC i ddeall sut y gallai technolegau digidol sy'n esblygu'n gyflym ddylanwadu ar y ffordd mae defnyddwyr yn darganfod brandiau ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch prynu yn y dyfodol. 

Wrth i chwilio a darganfod ar-lein barhau i esblygu, disgwylir i gynorthwywyr AI, profiadau cynhyrchiol a ffurfiau newydd o fasnachu chwarae rhan gynyddol bwysig yn y ffordd y mae defnyddwyr yn ymchwilio i gynhyrchion ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch prynu. Mewn ymateb, mae HCC yn cymryd camau rhagweithiol i ddeall sut y gall ei frandiau barhau i fod yn weladwy, yn ddibynadwy ac yn berthnasol o fewn y mannau digidol newydd hyn. 

Ochr yn ochr â phrofi cyfleoedd hysbysebu, mae HCC hefyd yn archwilio Optimeiddio Peiriannau Cynhyrchiol, disgyblaeth newydd sy'n canolbwyntio ar wella sut mae brandiau'n ymddangos o fewn ymatebion ac argymhellion a gynhyrchir gan AI. 

Mae'r gwaith yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth a all lywio strategaethau marchnata digidol yn y dyfodol, gan sicrhau bod penderfyniadau wedi'u seilio ar ymddygiad defnyddwyr go iawn yn hytrach na dyfalu. 

Drwy gofleidio arloesedd ac archwilio cyfleoedd newydd yn gynnar, mae HCC yn gosod ei hun mewn sefyllfa i allu ymateb i dirwedd newidiol chwilio, darganfod a masnach ddigidol, gan barhau i gefnogi gwelededd a chystadleugarwch brandiau cig coch Cymru yn y blynyddoedd i ddod.

You may also like

Cwrdd â HCC yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
Cwrdd â HCC yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
Cyhoeddi tri enillydd Ysgoloriaeth HCC yn y gynhadledd flynyddol
Cyhoeddi tri enillydd Ysgoloriaeth HCC yn y gynhadledd flynyddol
Cofrestrwch nawr ar gyfer Cynhadledd HCC 2026
Cofrestrwch nawr ar gyfer Cynhadledd HCC 2026
Bwletin y Farchnad Haf 2026: newid tueddiadau defnyddwyr mewn cig coch mewn manwerthu
Bwletin y Farchnad Haf 2026: newid tueddiadau defnyddwyr mewn cig coch mewn manwerthu

Cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin wythnosol

Darllenwch y diweddaraf gan HCC, yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith a newyddion o’r diwydiant ehangach. Unwaith y mis, mae ein Bwletin Marchnad hefyd yn rhannu’r mewnwelediad diweddaraf o’r marchnadoedd, o brisiau pwysau marw da byw i’r prif dueddiadau sy’n siapio’r diwydiant cig coch.

Llwyddiant!