Anogir cynhyrchwyr cig coch sy’n chwilio am opsiynau gwell ar gyfer porfa gynhyrchiol a gwydn i gael gafael ar gopi o’r Rhestrau Glaswellt a Meillion Cymeradwy (RGCL) sydd newydd eu cyhoeddi.
Bydd copïau caled o’r cyhoeddiad ar gael i’w casglu o stondin Hybu Cig Cymru (HCC) yn Nigwyddiad Tir Glas y Sioe Frenhinol ddydd Gwener nesaf, 12 Mehefin, a gynhelir ar Fferm Cwmbrynich, Pontsenni.
Mae un ar ddeg o amrywiaethau newydd o laswellt a meillion wedi’u hychwanegu at rifyn 2026 o’r rhestr, gan gynnig opsiynau gwell i ffermwyr cig eidion, defaid a llaeth ar gyfer porfa gynhyrchiol a gwydn. Mae’r ychwanegiadau eleni yn cynnwys rhygwelltau Eidalaidd hybrid a lluosflwydd, yn ogystal â meillion coch diploid newydd. Mae tri math pellach o lwsérn hefyd wedi’u hychwanegu at y rhestr ddisgrifiadol.
Er mwyn sicrhau lle ar y rhestr, mae’n rhaid i amrywiaethau arddangos gwelliant clir mewn nodweddion allweddol megis cynnyrch, ansawdd ac ymwrthedd i glefydau. Dim ond cyfran fach sy’n cyrraedd y safon bob blwyddyn, gan bwysleisio cryfder yr ychwanegiadau diweddaraf.
Meddai Russ Thomas, Rheolwr Cynaliadwyedd ac Effeithlonrwydd y Diwydiant yn HCC: “Rydym yn edrych ymlaen at fynychu’r Digwyddiad Tir Glas wythnos nesaf ac at ymgysylltu â thalwyr ardoll ar brosiectau ac ymchwil HCC sy’n ceisio gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol y diwydiant. Os hoffech gael copi am ddim o’r Rhestr Cymeradwy, neu elwa ar gymorth ymarferol, technegol ac ariannol tuag at ddefnyddio offer genetig blaengar fel rhan o Gam 2 Prosiect Geneteg Defaid Cymru, byddem yn falch o’ch gweld chi yno.”
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i glywed am gynlluniau HCC a’r gwaith o wireddu ei gynllun gweithredu strategol newydd – Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch: Darparu Gwerth i Gymru. Bydd y Prif Weithredwr, José Peralta, yn amlinellu blaenoriaethau’r corff ardoll mewn trafodaeth banel o’r enw ‘Porfa i’r Plât: Dyfodol Cig Eidion a Chig Oen Cymru’, a gynhelir am 2:15yp fel rhan o’r Twlc Trafod.
Am ragor o wybodaeth am y Digwyddiad Tir Glas, cliciwch yma: Sowing Today for a Greener Tomorrow - RWAS Grassland Event - Royal Welsh
Ewch i wefan AHDB am ragor o fanylion am yr RGCL, sef yr unig ffynhonnell gwbl annibynnol o ddata treialon yn y DU ar gyfer ffermwyr yng Nghymru a Lloegr: Recommended Grass and Clover Lists (RGCL) | AHDB




