Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn edrych ymlaen at ymuno â’r diwydiant ehangach a thalwyr yr ardoll yn nigwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a gynhelir ar Fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawsgoed ddydd Iau 30 Mai 2024.

Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i’r corff ardoll dynnu sylw at gyfraniad pwysig ffermwyr da byw wrth reoli eu glaswelltiroedd a thail a sut mae hynny’n bwysig o ran ffermio Sero Net yng Nghymru.

“Dyfodol y diwydiant a sut gall cynhyrchwyr cig coch barhau i gynhyrchu bwyd yn effeithlon ac yn gynaliadwy mewn amgylchedd sy’n newid drwy’r amser, fydd ar frig yr agenda i ni yma –  ac mae’r digwyddiad hwn yn llwyfan pwysig i dynnu sylw at gynaliadwyedd y sector cig coch.

“Mae ein tîm yn edrych ymlaen at siarad am bopeth sy’n ymwneud â glaswellt gyda’r rhai sy’n dod i ymweld â’n stondin.  Hefyd, rydym ar gael i drafod amrywiol brosiectau y mae HCC yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd sy’n rhoi atebion ymarferol ynghylch sut i dyfu gwell porfa, fel y prosiect GrassCheckGB, ” meddai Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC.

Hefyd, bydd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies yn ymuno â phanel o arbenigwyr yn y ‘Seminar Gwyddoniaeth Gynaliadwy’ fel prif siaradwr am 1:30pm; mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o seminarau cyfnewid gwybodaeth yn y digwyddiad.

Yn ogystal, bydd y tîm yn dosbarthu copïau o'r Rhestr Glaswellt a Meillion a Argymhellir sydd newydd ei chyhoeddi, sef llawlyfr o fathau o laswellt a meillion a luniwyd ar ôl cynnal profion trylwyr.

Mae staff HCC ar gael hefyd i drafod y rhaglen Cig-weithio newydd, sydd â’r nod o ddod ag unigolion angerddol a brwdfrydig ynghyd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiad o strwythur y sector a chynhyrchu cig coch o’r fferm i’r fforc, gan roi iddynt brofiad ymarferol yn y gweithle a mewnwelediad unigryw o’r diwydiant.

“Mae yna lawer o bethau y mae cynhyrchwyr cig coch yng Nghymru eisoes yn eu gwneud yn dda – mae’r Ffordd Gymreig o Ffermio yn enghraifft o sut y dylid ffermio – mae tyfu glaswellt a chynyddu bioamrywiaeth ar y tir ymhlith yr enghreifftiau hynny.

“Ond mae mwy y gallwn ni ei wneud fel diwydiant i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ymhellach a thorri gwastraff i hyrwyddo cynaliadwyedd economaidd a diwylliannol.

“Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â rhanddeiliaid y diwydiant ynghylch y materion hyn drwy gydol y dydd, ac yn gobeithio gweld llawer ohonoch yn ein stondin,” ychwanegodd Dr Heather McCalman.

You may also like

HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru