Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Cyhoeddodd Hybu Cig Cymru (HCC) raglen ysgoloriaeth ehangach yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw (dydd Mercher 22 Gorffennaf 2026), gydag ymgeiswyr llwyddiannus bellach yn gallu gwneud cais am hyd at £5,000 tuag at daith astudio o’u dewis sy'n gysylltiedig â chig coch.

Mae’r cyfnod ymgeisio yn dechrau heddiw a bydd yn para tan 31 Awst 2026, gan roi cyfle i unigolion uchelgeisiol o bob rhan o gadwyn gyflenwi cig coch Cymru ddatblygu eu gwybodaeth, archwilio arferion gorau yn fyd-eang a dod â mewnwelediadau gwerthfawr yn ôl i Gymru.

Yn ogystal, cafodd yr ysgoloriaeth ei hehangu eleni i adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodir yng Ngweledigaeth Diwydiant Cig Coch a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan HCC, gan greu cyfleoedd newydd i ystod ehangach o ymgeiswyr.

Mae'r Weledigaeth yn nodi tair blaenoriaeth allweddol ar gyfer dyfodol y diwydiant:

  • Cynyddu gwerthiant cig coch Cymru o ran cyfaint a gwerth;
  • Datblygu ac arwain mentrau sy'n gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol; a
  • Darparu eiriolaeth sy’n ragweithiol, yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y sector.

Gofynnir i ymgeiswyr am Ysgoloriaeth 2026 ddangos sut mae eu rhaglen astudio arfaethedig yn cyd-fynd ag o leiaf un o'r blaenoriaethau hyn ac yn cyfrannu at lwyddiant diwydiant cig coch Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd John Richards, Rheolwr Strategaeth a Pholisi'r Dyfodol HCC: “Mae eleni yn nodi pennod newydd gyffrous i Ysgoloriaeth HCC. Drwy gynyddu'r cyllid sydd ar gael ac ehangu cwmpas y prosiectau cymwys, rydym yn agor y drws i ystod ehangach byth o unigolion talentog a brwdfrydig.

"Rydym eisiau clywed gan bobl reit ar draws y sector cig coch – o gynhyrchwyr, proseswyr a mân-werthwyr i'r rhai sy'n gweithio ym meysydd cynaliadwyedd, economeg, marchnata a chyfathrebu. Beth bynnag yw eich diddordebau, os gallwch chi helpu i gryfhau dyfodol cig coch Cymru, rydym eisiau clywed eich syniadau.”

Mae Ysgoloriaeth HCC yn cynnig cyfle unigryw i deithio, dysgu gan fusnesau a sefydliadau blaenllaw, ac ennill profiad uniongyrchol o ddulliau arloesol o bob cwr o'r byd. Mae enillwyr yr Ysgoloriaeth yn dychwelyd gyda gwybodaeth newydd, safbwyntiau arloesol a syniadau ymarferol sy’n gallu gwneud gwir wahaniaeth i'r diwydiant yng Nghymru.

Ychwanegodd John: “Os oes gennych gynnig cryf, awydd gwirioneddol i ddysgu ac ymrwymiad i helpu i hybu'r diwydiant, gallai hwn fod yn gyfle perffaith i chi.”

Mae gan Ysgoloriaeth HCC enw da ers dros 20 mlynedd am gefnogi unigolion uchelgeisiol i ddatblygu eu harbenigedd, adeiladu rhwydweithiau rhyngwladol a chynhyrchu syniadau sy'n fuddiol i'r sector cig coch ehangach yng Nghymru.

Bydd enillydd y llynedd, Ben Lloyd James, yn cyflwyno rhai o'i ganfyddiadau mewn derbyniad ar stondin HCC yn Sioe Frenhinol Cymru. Meddai: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf yma wedi fy ngwthio i dyfu a herio fy hun, a dod nol gyda safbwynt newydd sbon. A dyna'n union sydd ei angen ar ddiwydiant cig coch Cymru wrth wynebu'r heriau nesaf. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n meddwl amdani i wneud cais: buddsoddiad ynoch chi'ch hun yw e, ond mae'n fuddsoddiad yn nyfodol y diwydiant hefyd."

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 mlwydd oed a bod yn barod i gyflwyno eu canfyddiadau i grwpiau diwydiant ledled Cymru. Daw unigolion llwyddiannus yn aelodau o rwydwaith unigryw o gyn-enillwyr – Cymdeithas Ysgoloriaeth HCC, sydd ar hyn o bryd dan gadeiryddiaeth y ffermwr gwartheg cig eidion a defaid, James Powell.

Mae mwy o wybodaeth, ynghyd â ffurflen gais, ar gael ar wefan HCC: https://meatpromotion.wales/cy/archwilio-adnoddau-arbenigol/adnoddau-ysgoloriaeth-a-gyrfaoedd/ysgoloriaeth-hcc/


You may also like

HCC yn ehangu’r rhaglen ysgoloriaeth gyda mwy o gyllid a ffocws ehangach
HCC yn ehangu’r rhaglen ysgoloriaeth gyda mwy o gyllid a ffocws ehangach
Archwiliwch wasanaethau gwartheg newydd EIDCymru yn Sioe Frenhinol Cymru
Archwiliwch wasanaethau gwartheg newydd EIDCymru yn Sioe Frenhinol Cymru
Lansio ymgyrch: ‘Naturiol a Lleol. Chwiliwch am y Logo’
Lansio ymgyrch: ‘Naturiol a Lleol. Chwiliwch am y Logo’
Cyfyngiadau cyflenwad yn parhau i gynnal marchnadoedd ŵyn
Cyfyngiadau cyflenwad yn parhau i gynnal marchnadoedd ŵyn