Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Ar drothwy Wythnos Ymwybyddiaeth Haearn y Byd, sy’n dechrau ddydd Llun 14 Hydref, mae’r corff sy’n hybu cig coch o Gymru, Hybu Cig Cymru (HCC), wedi cydweithio ag athletwraig flaenllaw o Gymru, Adelé Nicoll, i bwysleisio pwysigrwydd haearn yn y diet a thynnu sylw at Gig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI fel ffynonellau hollbwysig o haearn a fitaminau a mwynau eraill.

Bydd  Adelé yn cwblhau’r Her (Dyn)es Haearn yn ystod yr wythnos, pan fydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd haearn yn y diet yn ogystal â buddion maethol ac amlbwrpasedd cyffredinol cig coch Cymru.

Gan efelychu cystadleuaeth eiconig Ironman, bydd Adelé yn cwblhau ei chyfres ei hun o gyflawniadau trwy goginio tri phryd maethlon sy’n seiliedig ar doriad penodol o Gig Oen Cymru. Bydd yn defnyddio stêcs coes Cig Oen Cymru i greu tri phryd cyflym a maethlon: Cyrri Cig Oen Cymru a thatws melys; ramen Cig Oen Cymru a faijitas Cig Oen Cymru. Bydd hi'n postio fideos o’r ryseitiau ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol i'w 58,000 o ddilynwyr lle cafodd ei fideos diweddaraf eu gwylio hyd at 17 miliwn o weithiau.

Mae data’n dangos bod 76% o fenywod 19-64 oed yn defnyddio llai o haearn na’r hyn a argymhellir yn ddyddiol a bod 25% yn dioddef oherwydd cymeriant haearn isel. Gall lefelau isel o haearn gael effaith sylweddol ar eich bywyd bob dydd –  o deimlo’n flinedig i ddiffyg egni a dycnwch.  Mae haearn yn fwyn sydd ei angen ar y corff am sawl rheswm, gan gynnwys creu celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch y corff ac yn helpu i gynnal system imiwnedd iach.

Mae cig coch o Gymru megis Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, yn gyfoethog mewn protein naturiol ac yn llawn maetholion gan gynnwys fitaminau A a B2, ïodin, magnesiwm, sinc, potasiwm ac, wrth gwrs, haearn.

Athletwraig o Gymru yw Adelé, sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau bobsledio a thaflu’r pwysau ac sy’n awyddus i addysgu merched eraill a phobl ifanc am bwysigrwydd diet iach a chytbwys. Yn wreiddiol o’r Trallwng yng nghanolbarth Cymru, mae’n anelu at fod yr athletwraig gyntaf o Brydain i ennill medal yng ngemau Olympaidd yr haf a’r gaeaf.

Wrth sôn am bwysigrwydd diet a maeth cytbwys, dywedodd Adelé:

“Mae’n bryderus iawn gweld nad yw menywod yn cael digon o haearn o’u diet o hyd ac mae data’n dangos bod dros dri chwarter y menywod 19-64 oed yn cael llai o haearn na’r hyn a argymhellir yn ddyddiol a bod 25% yn dioddef oherwydd cymeriant haearn isel.

“Mae’r haearn sydd ei angen ar fenyw yn sylweddol uwch nag ar gyfer dyn, gan gynyddu ymhellach yn ystod mislif a beichiogrwydd. Fodd bynnag, nid yw llawer o fenywod yn sylweddoli bod sawl ffordd hawdd o wneud yn siŵr eu bod yn cael y maint cywir.

“Ffordd wych o godi lefelau haearn yw rhoi blaenoriaeth i fwydydd â llawer o haearn.  Ystyriwch fwyta mwy o ffynonellau haearn sy'n seiliedig ar anifeiliaid, fel cig coch, ynghyd â phlanhigion fel llysiau gwyrdd deiliog, ffa a chnau. Mae cig coch yn cynnwys haearn hema, sy'n golygu ei bod yn haws i'r corff ei amsugno a bydd yr haearn yn y cig yn helpu i amsugno'r haearn di-hema o'r planhigion. Mae haearn yn fwyn mor bwysig ac mae’n rhan allweddol o ddiet iach a chytbwys.”

Ychwanegodd Adelé:

“Am imi gael fy magu yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae Cig Oen Cymru yn dod o ŵyn sy’n cael eu magu’n gynaliadwy mewn tirweddau unigryw sydd heb eu cyffwrdd. Mae Cig Oen Cymru premiwm yn dod o ŵyn sy’n cael eu magu gan ddefnyddio technegau ffermio traddodiadol, sy’n sicrhau’r safonau uchaf posibl o’r fferm i’r fforc, a dyna pam rwy’n frwd dros gefnogi cynnyrch lleol.”

Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill:

“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Adelé i dynnu sylw at bwysigrwydd haearn yn y diet ac, yn benodol, at sut y gall cig coch Cymru chwarae rhan allweddol wrth greu diet iach a chytbwys. Fel athletwr rhyngwladol, mae Adelé yn credu’n gryf mewn dietau iach a ffyrdd iach o fyw ac mae’n gosod esiampl wych – yn arbennig i ferched ifanc sydd angen mwy o haearn yn eu bwyd.  Rydym yn falch dros ben ei bod wedi gallu gweithio gyda ni ar yr ymgyrch bwysig hon.”


You may also like

HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru