‘Chwiliwch am y logo’: dyna neges ymgyrch newydd gwerth £300,000 sy’n annog pobl ledled Cymru i brynu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI.
Mae’r brandio nodedig ar y cynhyrchion yn dangos yr arwydd sy’n dynodi tarddiad dibynadwy i ddefnyddwyr.
Drwy gydol y flwyddyn, bydd yr ymgyrch ‘Naturiol a Lleol. Chwiliwch am y Logo’ yn dathlu ansawdd, blas a tharddiad Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru trwy hysbysebu ar y teledu, mewn print ac ar-lein.
Mae logos y brand yn helpu siopwyr i adnabod cynhyrchion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru dilys, gyda chefnogaeth statws PGI, sy’n rhoi sicrwydd bod y cig wedi’i gynhyrchu yng Nghymru i safonau cydnabyddedig o ansawdd ac olrhain.
Drwy ddewis cynnyrch Cymreig, nid yn unig y mae defnyddwyr yn mwynhau cynnyrch lleol o safon, ond maent hefyd yn cefnogi ffermwyr lleol, cymunedau gwledig a diwydiant bwyd a diod ehangach Cymru.
Pan fydd siopwyr yn gweld logos Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru, gallant fod yn hyderus eu bod yn prynu cig o anifeiliaid sydd wedi’u geni a’u magu yng Nghymru, ac sydd wedi’i gynhyrchu i safonau uchel gan deuluoedd ffermio Cymru.
Gall dewis Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru hefyd gynnig manteision fel milltiroedd bwyd is, gan leihau’r angen am gig wedi’i fewnforio a allai fod wedi teithio miloedd o filltiroedd cyn cyrraedd y plât.
Mae Lisa Markham, sy’n ymddangos yn yr hysbyseb teledu ar gyfer Cig Oen Cymru, yn ffermio ym Mhennant yn Llanfihangel-y-Pennant, ar lethrau Cader Idris. Meddai: “I ni, mae tarddiad yn fwy na o ble mae bwyd yn dod – mae o hefyd am y bobl, y tirwedd a’r gofal dros y cenedlaethau. Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn nhreftadaeth ffermio cyfoethog Cymru, gan roi hyder i gwsmeriaid eu bod yn prynu cynnyrch gyda chysylltiad go iawn i leoliad arbennig,”
Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei redeg gan y corff ardoll cig coch Hybu Cig Cymru, o dan ei gynllun gweithredu strategol newydd, yn nodi dechrau rhaglen barhaus o weithgarwch a gynlluniwyd i wella ymwybyddiaeth cwsmeriaid a dathlu tarddiad Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Meddai’r Rheolwr Marchnata, Pip Gill, “Ein nod yw gwneud logos Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gyfystyr ag ansawdd, tarddiad a dilysrwydd. Drwy’r ymgyrch hon, rydyn ni eisiau i ddefnyddwyr adnabod, cofio a mynd ati i chwilio am y logo pryd bynnag maen nhw’n prynu cig coch. Po fwyaf cyfarwydd y daw siopwyr â logos y brand, yr hawsaf yw iddyn nhw adnabod cynhyrchion dilys Cymru a gwneud dewis gwybodus wrth brynu sy’n cefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru.”
Mae cynhyrchu cig coch yn cyfrif am 40% o allbwn amaethyddol Cymru, gyda gwerth amcangyfrifedig o £878 miliwn yn 2024, gydag amaethyddiaeth yng Nghymru yn cyflogi 48,000 o bobl.




