Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share
Mae data newydd yn dangos bod ffermwyr yn dechrau arbed arian drwy leihau'r bylchau lloia - ond mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod cryn gyfle o hyd i fod yn fwy proffidiol.

Y bwlch lloia cyfartalog ar gyfer buchod cig eidion yng Nghymru oedd 420 diwrnod yn 2024, yn ôl data diweddaraf Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS), sy’n ymddangos yn rhifyn y mis hwn o Bwletin y Farchnad gan Hybu Cig Cymru (HCC).

“Mae hyn yn gymharol sefydlog o’i gymharu â’r bwlch cyfartalog yn ystod y flwyddyn flaenorol, ac, o edrych ar dueddiadau hanesyddol, mae oddeutu 12 diwrnod yn fyrrach nag yn 2014,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth am y Farchnad, Dadansoddiad a Mewnwelediad Busnes HCC. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd a welwyd dros y degawd diwethaf, mae lle i wella o hyd er mwyn cyrraedd targed y diwydiant o 365 diwrnod rhwng lloia.

“Mae atgenhedlu effeithlon yn hanfodol er mwyn bod yn broffidiol oherwydd mae’n cynyddu nifer y lloi sy’n bosibl yn ystod oes y fuwch, waeth beth fo’r system gynhyrchu, a gall gwella effeithlonrwydd gyfrannu at ostyngiad yn lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fuches, yn ogystal â gwella elw’r busnes,” esboniodd.

Dywed Bwletin y Farchnad y gall yr oedran cyfartalog adeg y lloia cyntaf hefyd effeithio ar effeithlonrwydd atgenhedlu’r fuches sugno gan mai’r llo yw prif allbwn y fenter. Yn 2024, oedran cyfartalog y buchod cig eidion yng Nghymru adeg y lloia cyntaf oedd 964 diwrnod (neu 31.7 mis). Mae hyn yn welliant ar y flwyddyn, gan fod y fuwch gyfartalog bellach yn lloia 11 diwrnod yn iau nag yn 2023 a chymaint â 98 diwrnod yn iau nag yn 2014.

“Er bod rhywfaint o le i wella o hyd er mwyn cyrraedd targed y diwydiant o loia yn nes at 24 mis (neu 730 diwrnod), mae buchesi cig eidion yng Nghymru wedi dangos cynnydd sylweddol yn ystod y degawd diwethaf,” meddai Glesni.  Mae angen gwneud mwy, fodd bynnag, oherwydd gall rheoli heffrod yn effeithiol fel eu bod yn lloia yn iau gynyddu elw a lleihau costau cynhyrchu, gyda thystiolaeth yn awgrymu y byddai heffrod yn magu lloi trymach dros gyfnod eu hoes gynhyrchiol.”

Gallwch weld Bwletin y Farchnad HCC ar gyfer mis Mawrth yma: https://meatpromotion.wales/cy/market-intelligence/bwletin-y-farchnad/

You may also like

HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
HCC yn gwrando ar randdeiliaid i greu gweledigaeth i’r dyfodol
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Cryfhau perthynas â’r Eidalwyr wrth i’r Brenin Siarl fwynhau Cig Oen Cymru PGI yn yr Eidal
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru