Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pwy fydd aelodau'r Gweithgor Arbenigol a fydd yn helpu i lunio'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru. Ymhlith y sawl sydd wedi’u penodi mae cynrychiolydd o HCC, gan helpu i ddod â safbwynt diwydiant cig coch Cymru i’r trafodaethau wrth i’r grwp weithio i nodi blaenoriaethau a chyfleoedd ymarferol sy’n cefnogi system fwyd wydn, cynaliadwy a llwyddiannus i Gymru.
Bydd y grŵp, sy’n cael ei gadeirio gan Simon Wright, perchennog Wright’s Food Emporium, yn seiliedig ar bedwar piler: iechyd a lles, diogelu cyflenwadau bwyd, datblygu gwledig ac economaidd, a'r amgylchedd. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn llywio dull system gyfan o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru, o'r cynhyrchydd i'r plât; manwerthu, iechyd, addysg, caffael cyhoeddus a'r economi gylchol.
Mae'r meysydd arfaethedig ar gyfer archwiliadau yn cynnwys ‘diogeledd cadwyn gyflenwi cig Cymru’. Bydd yr archwiliadau dwfn hyn yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni allbynnau a chanlyniadau y cytunwyd arnynt, gan gynnwys drwy:
- Ddadansoddi ble a sut mae cwestiwn neu her bolisi penodol yn rhyngweithio, yn effeithio ar y pedwar piler iechyd a lles, diogelwch bwyd, yr economi a datblygu gwledig a'r amgylchedd a/neu sut y mae'r pileri yn effeithio arno
- Gwerthuso cyfaddawdau a nodi gwrthdaro systemig yn benodol, yn ogystal â ffyrdd o lywio neu oresgyn tensiynau rhwng gwahanol nodau polisi
- Nodi newidiadau polisi neu weithredol cynnar neu rai y gellir eu gweithredu ar unwaith a rhai cost isel. Rhaid i'r rhain sicrhau buddugoliaethau cyflym i Gymru wrth osod y sylfaen ar gyfer y strategaeth hirdymor
Am restr lawn o’r gweithgor a’i gylch gorchwyl, cliciwch yma: Casglu arbenigwyr bwyd a ffermio blaenllaw ynghyd i helpu i fwydo dyfodol Cymru | LLYW.CYMRU





